Skip to main content

Dechrau gwaith ar gae chwaraeon 3G newydd i Bentre'r Eglwys

Mae gwaith adeiladu ar gyfer darparu cae chwaraeon trydedd genhedlaeth newydd ym Mhentre'r Eglwys wedi dechrau. Dyma'r Cyngor yn darparu'i fuddsoddiad diweddaraf mewn cyfleusterau hamdden awyr agored pob tywydd.

Bydd y cae chwaraeon newydd yng Ngarth Olwg yn cymryd lle'r tywarch artiffisial ger Ffordd Llanilltud, ac yn darparu cyfleuster y gellir ei fwynhau beth bynnag fo'r tywydd. Dechreuodd y gwaith ddydd Llun, 13eg Tachwedd.

Cyhoeddwyd buddsoddiad y Cyngor yng Ngarth Olwg ym mis Mawrth. Bellach, mae'n cael ei ddarparu ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer cyfleusterau newydd tebyg yn Abercynon a Glynrhedynog.

Fe gytunodd y Cabinet yn ystod mis Hydref i fuddsoddi £650,000 yn ychwanegol mewn caeau chwaraeon trydedd genhedlaeth. O ganlyniad i hyn fe gaiff cyfleusterau newydd eu hadeiladu yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog ac Ysgol Gyfun Rhyd-y-waun. Ers cwblhau caeau 3G yn ddiweddar yn y Pentre, Aberpennar, Tonypandy, Tonyrefail, a'r Graig, mae cymunedau, ysgolion, a chlybiau chwaraeon lleol yn eu mwynhau yno.

"Mae'r Cyngor yn parhau i gyflawni'i adduned i dimau chwaraeon lleol i wella'r cyfleusterau hamdden cyfredol yn Rhondda Cynon Taf," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros yr Amgylchedd a Hamdden. Rydym ni'n parhau i ddarparu cyllid sylweddol i'r Gwasanaeth Hamdden fel maes buddsoddi allweddol i gynllun £200miliwn #BuddsoddiadRhCT.

“Mae'r caeau chwaraeon 3G newydd yma yn darparu ateb i gymunedau, clybiau, ac ysgolion i barhau â gweithgareddau ymarfer corff awyr agored yn ystod tywydd garw. Mae tywydd gwael yn tarfu ar restrau chwaraeon llawer o glybiau chwaraeon yr adeg yma o'r flwyddyn. Bydd y caeau yma o gymorth mawr iddynt.

"Croesawaf y newyddion fod gwaith ar droed bellach yng Ngarth Olwg. Bydd hyn, ynghyd â'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog a Chanolfan Chwaraeon Abercynon, yn debygol o gael eu cwblhau yn y misoedd a ddaw.

“Bydd ein ffocws yn symud wedyn i ddarparu caeau trydedd genhedlaeth newydd yn Ysgolion Bryncelynnog a Rhyd-y-waun. Cytunodd y Cabinet ar gyllid i hyn yn ddiweddar. Dyma'r cynlluniau diweddaraf sy'n cyfrannu at ein nod uchelgeisiol o ddarparu cae trydedd genhedlaeth o fewn tair milltir o bawb o breswylwyr Rhondda Cynon Taf, ble bynnag maen nhw’n byw.”

A'r gwaith ar droed bellach yng Ngarth Olwg, mae cwmni Morgan Sindall sef cwmni contractio'r Cyngor, wedi gofyn i'r cyhoedd yn gyffredinol beidio â defnyddio'r maes parcio ar bwys y tywarch artiffisial o 13eg Tachwedd ymlaen.

Wedi ei bostio ar 16/11/2017