Skip to main content

Ella yn cefnogi Wythnos Gwrth-Fwlio

Mae disgybl o'r Rhondda wedi rhyddhau cân i gyd-fynd ag Wythnos Gwrth-Fwlio y Deyrnas Unedig (13eg-17eg Tachwedd).

Ella Thomas, 12 oed, oedd enillydd cystadleuaeth talent Lleisiau'r Cymoedd, gyda'i fersiwn hi o gân Undo. (Dyma gynnig Sweden ar Gystadleuaeth Cân Eurovision yn 2014).

"Cân deimladwy iawn yw hon," meddai'i thad, Paul, a balchder yn ei lais, " ac mae'r geiriau yn llawn o neges rymus yn erbyn bwlio."

"Mae Ella wedi ennill gwregys du mewn Taecwando, ac ni phrofodd hi broblemau bwlïo. Serch hynny, mae hi'n teimlo'n gryf iawn am hyn.

Mae hi wir yn dwlu ar gân Sanna Neilsen,  Undo. Roedd hi o'r farn y byddai hi'n addas i'w defnyddio er mwyn tynnu sylw at Wythnos Gwrth-Fwlio.”

Disgybl ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Tonyrefail yw Ella ar hyn o bryd. Hi yw'r ifancaf erioed i ennill cystadleuaeth Llais y Cymoedd. Cymerodd hi 10 wythnos i gyrraedd y cymal terfynol. Bu raid iddi berfformio 12 o ganeuon mewn ystod o arddulliau, er mwyn ennill y beirniaid drosodd.

   

Bydd ei chân yn mynd allan fel fideo cerddoriaeth i bob cwr o wledydd Prydain er mwyn hyrwyddo neges Wythnos Gwrth Fwlio.

"Dyma neges gref iawn gan ferch ysgol dalentog iawn," meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes. "Mae pob un o'n holl ysgolion yn hyrwyddo agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlïo o unrhyw fath. Dywedaf wrth unrhyw ddisgybl sy'n teimlo yn anghyffyrddus na ddylai neb ddioddef yn dawel. Mynnwch air gydag aelodau o'r staff sydd wedi ennill eich ymddiriedaeth.

"Os na fydd ein disgyblion yn teimlo yn ddiogel yn yr ysgol, yn derbyn cymorth yno, ni allwn ni ddisgwyl iddynt wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddarparwn na chyrraedd eu potensial.

"Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor yn cynorthwyo'i staff addysgu. Mae'r rhain i gyd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer unrhyw sefyllfaoedd tebyg a allai godi."

"Rwy'n hapus ac yn falch iawn i mi ennill y wobr hon," meddai Ella, "ac wrth fy modd yn cael hyrwyddo Wythnos Gwrth-Fwlio." Rwy'n methu aros i ddechrau recordio fy nghaneuon fy hun, a gwneud fy fideos cerddoriaeth fy hyn.

"Dydyn ni ddim yn gymdeithas yma yn goddef bwlïo. Hoffwn i annog bobl sy'n teimlo'u bod yn darged i fwlïo i siarad yn groyw ac i ddweud wrth eu hathrawon.

“Gall effaith bwlïo ar lesiant emosiynol plant, pobl ifanc, ac oedolion fod yn ofnadwy a thorcalonnus. Mae'n hanfodol i ni i gyd weithio gyda'n gilydd er mwyn atal bwlïo rhag digwydd mewn cymdeithas wâr.”

Wedi ei bostio ar 14/11/2017