Skip to main content

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2017 ymgysylltu â phreswylwyr

Bydd Carfan Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Rhondda Cynon Taf allan hwnt ac yma er mwyn hyrwyddo Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2017, gyda chyfres o weithgareddau ymgysylltu â phreswylwyr.

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yw digwyddiad diogelwch ar y ffyrdd mwyaf y Deyrnas Unedig. Elusen diogelwch ar y ffyrdd Brake sy'n ei gydgysylltu bob blwyddyn. 'Arafwch ac Arbedwch Fywyd' yw'i thema eleni (20fed- 26ain Tachwedd) - nod hyn yw codi ymwybyddiaeth o broblem gyrwyr sy'n goryrru, a chanlyniadau potensial gyrru'n rhy gyflym ar ein ffyrdd.

Fore Dydd Llun, bydd y Cyngor yn dechrau'r wythnos ag ymgyrch ffonau. Bydd swyddogion mewn amryw o wahanol leoliadau ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf er mwyn cofnodi manylion unrhyw yrwyr sy'n defnyddio ffôn symudol wrth y llyw. Trosglwyddir yr wybodaeth am i Heddlu De Cymru ar gyfer gweithredu dilynol a codi ymwybyddiaeth.

Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion Cyngor yn cyflawni Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc gyda disgyblion Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Treorci ar brynhawn Dydd Llun.

Cynhelir achlysur gwybodaeth yn siop Asda, Tonypandy ddydd Mawrth, 21ain Tachwedd. Bydd y Cyngor, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a Phartneriaeth Gan Bwyll yn lledu neges diogelwch ar y ffyrdd. Byddant yn cael cymorth gan Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd o Ysgol Gynradd Treorci.

Yn ogystal â hyn, bydd gweithdy Pass Plus Cymru yn Nhrefforest ar nos Fawrth, Mae'r fenter hon yn cynnig i yrwyr newydd y siawns i ddarganfod rhagor o dechnegau gyrru, awgrymiadau, ac argymhellion am lwyddo yn eu profion, ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr ychwanegol o yrru,

Ar y dydd Mercher a’r dydd Iau, bydd ein ffocws yn troi at raglen Kerbcraft, Nod hyn yw rhoi i ddisgyblion Blwyddyn 2 y sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn dod yn gerddwyr mwy diogel. Bydd y sesiynau yma yn cynnwys disgyblion ifanc yn Ysgol Gynradd y Cymer, Ysgol, Ysgol Babanod Llwyncelyn, Ysgol Llanhari, Ysgol Iau Pen-y-graig, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cwm-bach.

Cynhelir cynulliad o Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd. Cynhelir gwaith partneriaeth yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref X Ysgol Gynradd Bodringallt. Yn ogystal â hynny, cynigir Cwrs Lefel 1 Safonau Cenedlaethol Beicio yn Ysgol Gynradd y Santes Fererid.

Byddwn ni'n cau pen y mwdwl i weithgareddau Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd ar y dydd Gwener, gyda gweithdy Gyrru'n Ddiogelach i Hwyrach i breswylwyr dros 65 oed. Nod y fenter hon yw darparu'r sgiliau a chyngor sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal hyder modurwyr dros 65 oed.

"Saif Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd fel carreg filltir o bwys yng nghalendr y Cyngor," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd " Dyw'r flwyddyn yma ddim yn wahanol. Mae ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd wedi cynllunio nifer o achlysuron er mwyn ymgysylltu â phreswylwyr ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf.

"Craidd mwyaf arwyddocaol yr wythnos fydd ymgysylltu â disgyblion yn yr ysgolion. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn digwydd er mwyn rhannu neges diogelwch ar y ffordd ymhlith pobl ifanc - gan gynnwys sut i aros yn ddiogel fel cerddwr.

“Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner. Yn ogystal â hyn, byddwn ni allan hwnt ac yma ar ein ffyrdd er mwyn sicrhau fod pobl yn gyrru mewn ffordd gyfrifol.  Ar ben hynny, byddwn ni’n rhoi gwybod i’r Heddlu am y rheiny sy'n dewis defnyddio'u ffonau symudol wrth yrru. Bydd sesiwn ymgysylltu a dargedwyd hefyd, gyda gyrwyr sydd dros 65 oed.

"Hoffwn i annog pob un o'r holl breswylwyr i ymgysylltu â neges Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2017, er mwyn sicrhau fod pawb mor ddiogel ag sy'n bosibl ar ein ffyrdd.”

Wedi ei bostio ar 20/11/17