Skip to main content

Cannoedd yn mwynhau Rhialtwch Calan Gaeaf

Aeth dros 1,500 o bobl i achlysur deuddydd Rhialtwch Calan Gaeaf a gafodd ei gynnal yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. 

Cafodd atyniad poblogaidd i deuluoedd y Cyngor ei drawsnewid, gyda llwyth o atyniadau a gweithgareddau arswydus - a oedd yn berffaith i deuluoedd ifainc.  

Roedd y gweithgareddau'n cynnwys cerfio pwmpenni, helfa pwmpenni, celf a chrefftau yn ogystal â gweithdai creu hudlathau a choesau ysgubell. Roedd yna sioe Calan Gaeaf arbennig yn cynnwys y diddanwr poblogaidd Chunkie Russell. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, ac sydd â chyfrifoldeb am atyniadau i ymwelwyr: “Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad poblogaidd i deuluoedd. Felly roedd yn lleoliad perffaith i gynnal ein hachlysur Rhialtwch Calan Gaeaf unwaith eto eleni. 

“Daeth dros 1,500 o bobl i'n hachlysur Rhialtwch Calan Gaeaf dros y ddau ddiwrnod a chawson nhw amser penigamp. Rydw i'n gobeithio bydd llawer ohonyn nhw'n dod i Ogof Teganau Siôn Corn hefyd.” 

Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi cael ei sefydlu ar hen safle Glofa Lewis Merthyr. Daeth gwaith cynhyrchu i ben yno ym 1983. A'r cynhyrchu yn ei anterth, roedd dros 1,160 o bobl yn gweithio yn y lofa, ac roedd yn cynhyrchu tua 1,250 tunnell o lo y diwrnod. 

Pwerodd rhai o lo Glofa Lewis Merthyr daith gyntaf RMS Titanic yn 1912 o Southampton i Efrog Newydd. 

Erbyn hyn, Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd i deuluoedd y Cyngor. 

  • Cynlluniwch ymlaen llaw a chadwch le ar gyfer achlysur Ogof Teganau Siôn Corn. Ffoniwch 01443 682036 neu ewch i www.rhonddaheritagepark.com
Wedi ei bostio ar 01/11/17