Skip to main content

Nos Galan 2017 - ai chi fydd y gorau mewn gwisg ffansi?

Ydych chi wedi llwyddo i gadw lle yn Rasys Nos Galan 2017 yn Aberpennar?

Do? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dal sylw'r dorf o blith 1,000 o redwyr y Râs Hwyl 5km i Oedolion. Beth am redeg mewn gwisg ffansi? Bydd y Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf, yn dyfarnu'r gwisgoedd mwyaf creadigol ar y noson ac yn dyfarnu gwobr wych i'r enillydd.

Criw sy'n ennill Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Nos Galan yn rheolaidd yw teulu Griffiths, Aberpennar. Byddant dan arweiniad Huw Griffiths, sy'n bennaeth ysgol yn yr ardal, a'i dad Alan Griffiths, pennaeth ysgol wedi ymddeol.

Yn y gorffennol, maent wedi cystadlu fel Fan Scwbi-Dw (gyda phob un o'r cymeriadau); llond long o Lychlynwyr; a Dyn y Sêr, sef teyrnged i David Bowie.

Beth am eu herio eleni? I'r gad!

Bydd enillwyr Cystadleuaeth Gwisg Ffansi yn ennill rhodd garedig gan gwmni Safestyle Security Services Cyf. Nhw sydd wedi darparu gwasanaethau diogelwch yn achlysuron Rasys Nos Galan ers blynyddoedd lawer.

"Nid oes yr un achlysur sy'n hafal i Rasys Nos Galan yn y wlad  i gyd," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Hamdden. "Dyma Nos Galan heb ei hafal."

"Bydd ein hachlysur byd-enwog ni yn gyfle i weld rhedwyr gwych yn gwibio heibio, yn rhoi hwyl i'r teulu cyfan, ac yn llenwi strydoedd Aberpennar ag awyrgylch wefreiddiol wrth fodd calon pawb.

"Ar ben hynny i gyd fe gawn weld dros 1,000 o bobl yn cymryd rhan yn y Râs Hwyl 5km i Oedolion, llawer ohonynt mewn gwisg ffansi.

"Nawr mae'r adeg i chi ddechrau meddwl am beth i'w wisgo ar y noson. Bydd y rhedwr sy'n dangos y dychymyg mwyaf yn ennill casgliad trawiadol o roddion ffitrwydd. Mae'r rhain yn rhodd garedig gan gwmni Safestyle Security Services Cyf.

"Mae'r cwmni hwn yn gysylltiedig â Rasys Nos Galan. Rydym ni'n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth barhaus."

"Rydym wrth ein bodd unwaith eto yn cael bod yn rhan o lwyddiant Rasys Nos Galan," meddai Darren Edwards, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Safestyle Security Services Cyf. "Dyma achlysur byd-eang sy'n gwella eto bob blwyddyn."

“Ein rôl ni fel cwmni yw gofalu i sicrhau fod pawb yn cael amser gwych a diogel ar Nos Galan yn y rasys yn Aberpennar. Rydym ni'n falch i fod yn gysylltiedig â'r achlysur yma.”

1,065 yw nifer syfrdanol y rhai a fydd yn cymryd rhan yn Râs Hwyl Pum Cilometr i Oedolion, gyda 325 o athletwyr ychwanegol yn cystadlu yn y Râs Elît a llawer yn rhagor yn y rasys i blant.

Bydd Rasys Nos Galan 2017 yn cael eu cynnal ddydd Sul 31ain Rhagfyr. Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk.

Hoffech chi ragor o fanylion? Croeso i chi alw carfan achlysuron y Cyngor ar 01443 424123, neu ebostio achlysuron@rctcbc.gov.uk.

Noder: Ni chewch drosglwyddo lleoedd mewn rasys i bobl eraill. Os byddwch chi'n defnyddio rhif ras unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r ras.

Hoffech chi redeg dros Apêl Elusen y Maer? Mae ffurflenni nawr ar gael bellach. Hoffech chi gael ffurflen? Croeso i chi ebostio NosGalan@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 17/11/17