Skip to main content

Prosiect yn adnewyddu brithweithiau Canol Tref Aberdâr

Cafodd brithweithiau Canol Tref Aberdâr eu hadnewyddu, diolch i un o brosiectau'r Cyngor gyda phobl ifanc leol. Mae'r gweithiau celf yma yn portreadu hanes diwydiannol y Cymoedd.

Roedd y brithweithiau, sydd i'w gweld mewn dau fŵa yng nghanol y dref, yn waith dylunio ac adeiladu pobl ifanc o'r ardal leol yn wreiddiol, rai blynyddoedd yn ôl. Mae'r gwaith celf yn dangos pethau sy'n nodweddiadol o bentrefi glofaol bychain - gan gynnwys melin ddŵr, offer pen pwll, glofa, a ffatrïoedd.

Mae'r brithweithiau wedi mynd i gyflwr gwael yn ddiweddar, serch hynny, ac felly mae prosiect annwyl Uwchadran Adfywio'r Cyngor yn rhoi bywyd newydd i'r gwaith celf poblogaidd. Gweithiai ochr yn ochr ag artist lleol, a phobl ifanc o wasanaeth Cefnogi Addysg, Cefnogaeth, a Hyfforddiant y Cyngor.

 Cliciwch yma i weld rhagor o luniau o brosiect mosaig Canol Tref Aberdâr

Yn ogystal â'u gwaith adfer i'r brithweithiau presennol, aethant ati i ddylunio brithwaith newydd sbon i'r bŵa rhwng Commercial Street a Stryd y Farchnad.

Dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf, ac fe'i cwblhawyd yn ddiweddar. Daeth nifer o garedigion yr achos at ei gilydd yng nghanol tref Aberdâr ar ddydd Mercher, 15fed Tachwedd, er mwyn rhoi gair o glod i bawb fu'n gysylltiedig. Rhoddwyd sylw arbennig i dri o ieuenctid y fro fu'n gweithio'n agos â'r artist lleol.

Aeth y grŵp ati i wneud ymchwil, creu dyluniad, a chynhyrchu'r brithwaith o'r dechrau i'r diwedd.

"Pleser digymysg oedd cwrdd â'r bobl ifanc fu'n gysylltiedig â'r prosiect hwn ar Ddydd Mercher," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y brithweithiau gwych ar eu newydd wedd, sy'n destun balchder i ni i gyd yng nghanol tref Aberdâr.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella canol ei drefi, ac mae'r prosiect yma wedi effeithio'n gadarnhaol ar olygfa’r stryd. Bydd yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr â'r dref, yn portreadu hanes glofaol y Cymoedd, ac i gyflwyno delwedd o dreftadaeth gadarn Aberdâr.

"Hoffwn i ddiolch i'r bobl ifanc fu'n cymryd rhan, ac i'r artist lleol am ei waith diflino a wnaeth hyn yn bosib. Mae'r criw wedi rhoi bywyd newydd i'r celfwaith a greodd pobl ifanc y fro lawer o flynyddoedd yn ôl.”

Wedi ei bostio ar 21/11/17