Skip to main content

Man croesi diogel yn Coronation Road, Y Gilfach Goch

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith ar gyfer cyflwyno man croesi diogel yn agos i lety tai gwarchod yn y Gilfach Goch.

Mae'r Cyngor am wella diogelwch cerddwyr yn yr ardal leol. Aeth ati i osod croesfan pâl a reolir gan signalau traffig ar Coronation Road. Dyma'r heol sy'n rhedeg o flaen Llety Tai Gwarchod Sŵn-yr-Afon.

Yn ogystal â hynny, mae'r cynllun ehangach £70,000 yn cynnwys diwygio llinellau cwrb wedyn, yn ogystal â gosod goleuadau stryd newydd, offer signalau traffig, a marciau ffordd.

Cychwynnodd gwaith yn ystod mis Hydref, yn dilyn buddsoddiad o £20,000 gan y Cyngor, cyfraniad o £35,000 gan Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt cwmni REG Power Management, a £15,000 gan Gyngor Cymuned Gilfach Goch.

Cafodd proses gomisiynu'r signalau ac arwyddion traffig newydd ei chwblhau erbyn hyn ac maent yn gweithio'n llawn. Bellach, mae'r mesurau rheoli traffig dros dro oedd yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r gwaith wedi cael eu symud a'u gwaredu.

"Mae'r Cyngor wedi cwblhau'r gwaith i wella diogelwch cerddwyr yn Coronation Road yn y Gilfach Goch," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb ar faterion y Priffyrdd, "Mae hon yn gwasanaethu'r llety tai gwarchod gerllaw."

“Mae hyn yn golygu a chynrychioli buddsoddiad diweddaraf y Cyngor, drwy gynllun #BuddsoddiadRhCT, sy'n parhau. Nod hyn i gyd yw sicrhau gwelliannau, addasu ein priffyrdd ar gyfer y dyfodol, a'u gwneud yn fwy effeithlon a diogel i breswylwyr a chymudwyr fel ei gilydd. Dengys hefyd fod y Cyngor yn chwilio am fuddsoddi o'r tu allan, lle a bo modd, yn gymorth i ddarparu cynlluniau priffyrdd lleol.

"Cafodd y gwaith yn y Gilfach Goch ei ddarparu yn ôl yr amserlen. Rwy'n sicr y bydd y preswylwyr yn rhoi croeso brwd i'r newyddion da fod y man croesi diogel wedi cael ei osod ac yn gweithio'n llawn erbyn hyn"

Wedi ei bostio ar 14/11/17