Skip to main content

Buddsoddi'n sylweddol yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach

Mae Aelodau o’r Cabinet wedi cytuno i wneud buddsoddiad sylweddol o £500,000 er mwyn gwella Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach a'i diogelu ar gyfer y dyfodol. Bydd y ffocws ar ddarparu'r cyfleusterau ffitrwydd a chwaraeon dan do diweddaraf.

A'r Cabinet yn cwrdd ddydd Mawrth, 21ain Tachwedd, fe ystyriodd y cynnig i wario £500,000 ar y Ganolfan Chwaraeon ym mhentref Tylorstown. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau hefyd fod y Ganolfan yn fwy cynaliadwy at y dyfodol.  Daeth hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos yn dechrau ar 6ed Hydref.

O ganlyniad i benderfyniad y Cyngor i wneud y buddsoddiad mawr yma, caiff y pwll nofio a'r neuadd eu hailfodelu, a bydd cyfleuster ffitrwydd o'r radd flaenaf newydd yn cael ei gyflwyno. Caiff rhan o'r adeilad ei throi'n arwyneb chwaraeon trydedd genhedlaeth pob tywydd dan do.

Cytunodd y Cabinet i wneud defnydd o ran o adeilad y Ganolfan Chwaraeon fel llety swyddfa i'r Cyngor hefyd. Bydd hyn yn ddull ymagweddu mwy cost-effeithiol i'r cyfleuster. Yn ogystal â hynny, rydym ni am ddatblygu partneriaethau gyda chlybiau chwaraeon lleol er mwyn creu llwybrau chwaraeon.

Mae rhan o'r cynlluniau yn gofyn am gau'r pwll nofio, gyda chynnydd mewn capasiti pyllau nofio mewn cyfleusterau cyfagos er mwyn ateb y galw. Yn 2016/17, fe ddenodd y pwll nofio yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach nifer sylweddol lai o ddefnyddwyr na'r un arall yn Rhondda Cynon Taf.

Nododd y Cabinet fod Pennaeth Ysgol Gymuned Ferndale wedi cytuno i weithio gyda'r Cyngor er mwyn caniatáu ychwanegol o nofio gan y cyhoedd ym pwll nofio'r ysgol. Byddai modd defnyddio arian cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn darparu oriau agor ychwanegol.

"Mae'r Cabinet wedi trafod y newidiadau arfaethedig yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden" a bydd £500,000 yn cael eu buddsoddi er mwyn darparu cyfleuster ffitrwydd a chadw'n heini o'r radd flaenaf newydd, a chae chwaraeon trydedd genhedlaeth dan do newydd y Cyngor - er  budd clybiau chwaraeon lleol.

"Drwy hyn, mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn Hamdden. Dyma un o feysydd allweddol buddsoddi drwy raglen barhaus #BuddsoddiadRhCT, gwerth £200miliwn.

“Credwn y bydd y buddsoddi a'r moderneiddio a gytunwyd gan y Cabinet, yn darparu'r rhagolygon gorau i'r cyfleuster gwerthfawr yma. Bydd hyn yn denu mwy o ddefnyddwyr, fel ag y digwyddodd mewn cyfleusterau hamdden eraill yn dilyn buddsoddiad.

"Bydd y gwelliannau sylweddol o bwys yma yn sicrhau dull mwy cynaliadwy a chost-effeithiol i Ganolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach. Ar yr yn pryd, bydd yn datblygu arlwy hamdden sy'n unigryw yn Rhondda Cynon Taf, ac yn gweddu'n well i'r galw lleol."

Wedi ei bostio ar 22/11/2017