Skip to main content

Disgyblion yn cipio'r wobr am y trydydd tro!

Mae tri siaradwr medrus o Ysgol Gyfun Cwm Rhondda wedi ennill y Wobr Siarad Cyhoeddus Genedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae disgyblion, rhieni a staff yr ysgol yn hynod o falch o berfformiad Seren Farrup, Evie Connolly a Jenni Page yn ystod yr achlysur. Cymerodd y tair, sy'n ddisgyblion chweched dosbarth, ran yn y gystadleuaeth a gafodd ei threfnu gan Rotari Cymru a'i chynnal yn Adeilad Cynulliad Cymru, Tŷ Hywel.

Mae'r ysgol bellach wedi ennill y Wobr Siarad Cyhoeddus Genedlaethol naw tro - a phob blwyddyn ers 2014.

Yn ogystal â'r gydymdrech arbennig yma, llwyddodd y disgyblion ennill gwobrau unigol. Enillodd Seren wobr y Cadeirydd Gorau, cafodd Evie ei henwi fel Gwrthwynebydd Gorau'r gystadleuaeth a Siaradwr Gorau'r gystadleuaeth gyfan. Cafodd Jenni safle ail ar gyfer gwobr y Cynigiwr Gorau.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Mae Rotari Cymru yn trefnu sawl achlysur er mwyn rhoi cyfle i bobl ifainc ddatblygu'u sgiliau, ymwybyddiaeth a'u hyder ac mae'r gystadleuaeth Dadlau Genedlaethol yn un ohonyn nhw.

"Mae ennill y wobr fawreddog yma am y drydedd flwyddyn yn olynol yn llwyddiant anferthol - llongyfarchiadau Jenni, Evie a Seren.

"Bydd meddu ar sgiliau dadlau sydd wedi ennill gwobrau o fantais iddyn nhw yn y dyfodol, wrth iddyn nhw ddadlau materion mewn modd trylwyr ac effeithlon a thrwy gyflwyno'u dadl yn glir. Dyma sgiliau allweddol ar gyfer addysg bellach a'r byd gwaith.

"Hoffwn i ymuno â'r ysgol, ei chorff llywodraethu a'r holl ddisgyblion drwy ddweud pa mor falch ydw i o'r disgyblion yma o RCT."

Meddai John Bryant, Cadeirydd y Corff Llywodraethu "Llongyfarchiadau, rydw i mor falch ohonoch chi - a llongyfarchiadau mawr i'r holl staff a roddodd hyfforddiant i'r tîm. Mae ennill y wobr am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac am y nawfed tro, yn dipyn o gamp!"

Wedi ei bostio ar 23/11/2017