Skip to main content

Cyfleoedd buddsoddi £7miliwn ychwanegol

Mae'n bosibl y caiff £7miliwn yn ychwanegol ei fuddsoddi mewn gwella cysylltiadau trafnidiaeth, cyfleusterau hamdden a datblygu canolfannau/hybiau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf, wrth i gynigion gael eu cyflwyno i'r Cabinet yr wythnos nesaf sy'n argymell buddsoddi cyfalaf am y pumed tro mewn meysydd allweddol o flaenoriaeth yn rhan o raglen #buddsoddiadRhCT.

Mae'r adroddiad yn cynnig buddsoddi £3miliwn ychwanegol mewn cynlluniau mawr y priffyrdd, megis y Ffordd Gysllwt ar draws y Cwm, Aberpennar, Ffordd Liniaru Llanhari, a deuoli'r A4119 i'r de o Donyrefail.

Noda'r adroddiad hefyd y cynnig i greu 2 gyfleuste r3G ychwanegol yn Ysgol Bryncelynnog ac Ysgol Rhyd-y-waun, ynghyd â buddsoddi miliwn arall mewn datblygu cyfleusterau Parcio a Theithio.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae'r buddsoddiad £7miliwn yn ceisio sicrhau'n bod ni'n parhau i gyflawni'n dyheadau ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan.

"Bydd y buddsoddiad yma yn gefn i barhau â'r nifer o ymrwymiadau cyhoeddus ac yn sicrhau y bydd y gwelliannau cadarnhaol a gweladwy oherwydd rhaglen #buddsoddiadRhCT dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn parhau, llunio dyfodol cadarnhaol ar gyfer y Sir rydyn ni i gyd eisiau'i weld.

“Rydyn ni wedi cyflwyno cynnig i roi dros hanner miliwn o bunnoedd ar gyfer 2 gae 3G arall yn y Sir i wireddu'n cynlluniau uchelgeisiol bod pob un o'r trigolion o fewn radiws 3 milltir o gyfleuster tebyg. Mae'r cynlluniau yma yn ychwanegol at y saith sydd wedi cael eu cwblhau'n barod a'r tri arall sydd naill ai'n mynd rhagddo neu sydd yn y cam datblygu yn Abercynon, Garth Olwg, a Glynrhedynog.

“Er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwireddu'n cynlluniau i wella'n seilwaith trafnidiaeth, yn enwedig mewn perthynas â Ffordd Liniaru Llanharan a deuoli'r A4119, mae £1miliwn arall wedi'i glustnodi ar gyfer pob prosiect i symud y datblygiad priodol yn ei flaen. Yn ogystal â'r cynlluniau yma, bydd £1miliwn arall yn cael ei ryddhau ar gyfer parhau i gynnal y gwaith ar gyfer Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar.

"Yn rhan o'n hymdrech i foderneiddio'n cynnig trafnidiaeth ehangach, bydd dros £1miliwn arall yn cael ei roi tuag at ddatblygu cyfleusterau Parcio a Theithio ychwanegol ar draws RhCT i sicrhau'n bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw i'n rhan trwy brosiect Metro De Cymru.

"Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT yn sicrhau, er gwaethaf yr heriau ariannol rydyn ni'n eu hwynebu, fod modd creu cyfleoedd, trwy dargedu buddsoddiadau, i gynnal gwelliannau hanfodol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, er gwaetha'r cyllid refeniw llai rydyn ni'n ei gael.

"Rydyn ni'n gwybod, trwy newid y ffordd rydyn ni'n cynnal ein gwasanaethau, bod modd inni sicrhau'n bod ni'n parhau i ddarparu gwasanaethau rheng-flaen allweddol gyda llai o adnoddau ariannol; a thrwy dargedu buddsoddiad, mae modd inni wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i drigolion, a dyna pam rydyn ni'n cynnig buddsoddi dros hanner miliwn o bunnoedd mewn datblygu Canolfannau/Hybiau Cymunedol.

"Mae'r cynnig buddsoddi yn ymwneud â symud RhCT yn ei flaen, trwy ddiogelu seilwaith allweddol ar gyfer y dyfodol, gwella'n cysylltiadau trafnidiaeth a datblygu ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau.

"Yn ogystal â hynny, mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn caeau 3G o’r safon ddiweddaraf at ddefnydd y gymuned yn mynd ati'n weithredol i ymateb i'r adborth a'r galw am gyfleusterau, a'r buddsoddiad ychwanegol mewn hamdden a fydd yn gwella eto'r ddarpariaeth rydyn ni'n ei chynnal.”

Maes Buddsoddi

Gwariant   Amcangyfrifedig  (£M)

Ariannu   Cynlluniau Mawr y Priffyrdd

3.000

Ariannu Meysydd   3G

0.650

Rhaglen Parcio a   Theithio

1.000

Pont Pontrhondda

1.100

Canolfananu/Hybiau   Cymunedol

0.500

Ystafelloedd   Newid Canolfannau Hamdden

0.750

Cyfanswm y   Buddsoddiad

7.000M

Yn dilyn adolygiad, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet a'r Cyngor llawn ym mis Tachwedd, bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ariannu trwy ryddhau cronfeydd wedi'u clustnodi 'un tro'.

Wedi ei bostio ar 23/10/17