Skip to main content

Gŵr o'r Gofod yn Gwefreiddio'r Gynulleidfa

Roedd cynulleidfaoedd yn Aberdâr wrth eu boddau yn gwrando ar y Cyrnol Al Worden, un o ofodwyr gwreiddiol NASA, yn siarad am ei anturiaethau yn y gofod - yn ogystal â'i farn bersonol am fywyd deallus ar blanedau eraill. 

Y Cyrnol Worden, sy'n 85 oed bellach oedd Peilot y Modiwl Rheoli ar daith orchwyl enwog llong ofod Apollo 15 i'r lleuad ym 1971. Mae'n un o'r criw dethol o 24 sydd wedi hedfan i'r lleuad. 

Yn ogystal â hyn, cafodd ei grybwyll yn Llyfr Recordiau'r Byd Guinness am fod yn fwy anghysbell na'r un bod dynol erioed, yn sgîl teithio ymhellach i'r gofod na neb arall. 

Roedd y Cyngor wrth eu boddau, ar y cyd ag Awyr Dywyll Cymru, yn croesawu'r Cyrnol Al Worden i Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ar 9fed Hydref. 

Roedd y Cyrnol yn un o'r saith a gafodd ei ddewis i fod yn beilotiaid modiwl rheoli. Bu miliynau o bobl ar draws y byd yn gwylio ar y teledu wrth iddo hedfan i'r Lleuad ym mis Gorffennaf 1971, ochr yn ochr â'r Comander Dave Scott a pheilot y modiwl lleuad, Jim Irwin.

Ef oedd y cyntaf i gyflawni Gweithgarwch Allgerbydol (GAG) yn y gofod dwfn. (Gweithgarwch gan ofodwr yw hyn y tu allan i long ofod.)

"Mae'r Cyrnol Al Worden yn aelod o glwb dethol Peilotiaid Taith Orchwyl Apollo i'r Lleuad," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Diwylliannol "ac mae ganddo stori hynod ryfeddol i'w hadrodd.

“Roedd y Cyngor, ar y cyd ag Awyr Dywyll Cymru wrth eu boddau yn croesawu dyn mor ysbrydoledig i Rondda Cynon Taf. Roedd y gynulleidfa, yn cynnwys plant ac oedolion fel ei gilydd, wedi'u cyfareddu'n llwyr gan ei storïau.

"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Awyr Dywyll Cymru yn falch o'r cysylltiad cryf rhyngddynt sydd wedi gwneud Rhondda Cynon Taf yn un o'r lleoedd gorau yn y Deyrnas Unedig i weld y sêr."

Aeth pedair degawd ar ôl taith orchwyl y Cyrnol Al Worden i'r lleuad ar long ofod Apollo 15. Ef oedd y dyn cyntaf i fynd am dro yn y gofod, ac mae'n dal mor angerddol o ymrwymedig i'r Bydysawd ag erioed. Mae'n awyddus i ysbrydoli'r to ifanc i ymserchu yn y sêr a'r planedau a'r wybren las faith.

Wedi ei bostio ar 19/10/2017