Skip to main content

Cwblhau gwaith cyffordd Ffordd Caerdydd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cwblhau gwelliannau mawr o bwys gwerth £270,000 ar gyffordd Ffordd Caerdydd ger Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon. Ar yr un pryd, dal i fynd rhagddo mae cynllun y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar.

Dechreuodd y gwaith ger cyffordd Ffordd Caerdydd tua chanol mis Gorffennaf i ddarparu lonydd cerbyd, gwaith ail-wynebu ffyrdd, a goleuadau stryd newydd. Bydd y gyffordd yn un o gydrannau hanfodol cynllun arweiniol y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm. Caiff hwn ei ddarparu erbyn 2019/20.

O ganlyniad i'r prosiect cyfan yn gyffredinol, fe fydd pont 60 metr wedi cael ei hadeiladu ar draws llinell reilffordd Aberdâr-Caerdydd ac Afon Cynon, o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Ffordd Meisgyn. Bydd hyn yn darparu cysylltiad allweddol i draffig ar ffordd yr A4059 a ffordd y B4275, ac yn lleddfu tagfeydd yn Aberpennar ac yng nghoridor ehangach ffordd yr A4059 a ffordd y B4275.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu cwblhau ar gyffordd Cardiff Road erbyn hyn. Bydd pen deheuol Cardiff Road yn aros ar gau tan Ionawr 2018 er mwyn adeiladu wal gynhaliol i hwyluso lledu cyffordd yr ystad ddiwydiannol ag A4059. Dechreuodd y gwaith yma ar 16 Hydref.

Bydd gwaith topograffeg archwilio tir pellach yn dechrau ar Ffordd Meisgyn hefyd. Mae gwaith chwalu'r bythynnod ar Ffordd Meisgyn newydd ddechrau. Tua saith mis y bydd yn parhau, gyda chymorth cau ffyrdd darn un ffordd Ffordd Meisgyn dros dro.

"Mae'r Cyngor wedi llwyddo i ddarparu'r buddsoddiad o £270,000 ar gyffordd Ffordd Caerdydd," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd. "Dyma gam pwysig arall i'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar." Bydd y gyffordd yn ffurfio rhan fawr o'r cynllun yn gyffredinol. Mae'n gorwedd yn agos iawn at y ffordd gyswllt newydd dros yr afon a'r llinell reilffordd gerllaw.

"Bydd sylw yn troi at y gwelliannau mawr o bwys sy'n cael eu darparu ar gyffordd yr A4059 i mewn i Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon. Dyma fydd y buddsoddiad mawr nesaf yn y cynllun ehangach.

"Mae gwella llif y traffig ar goridor ffordd yr A4059 yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor yma. Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol ar y ffordd fawr yma yn y 12 mis diwethaf. Y gwelliannau ar Gylchfan Cwm-bach yw'r rhai diweddaraf.

"Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i ddarparu'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm, fu'n ddyhead tymor hir i Gwm Cynon. Byddwn ni'n parhau i roi'r newyddion diweddaraf am y cynnydd wrth i ni gyrraedd pob carreg filltir o'r prosiect blaengar yma."

Hyd yn hyn, cafodd £7.551 miliwn ei ddyrannu i'r cynllun yn gyffredinol, yn dilyn buddsoddi sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru – a gyfrannodd £3.601 miliwn. Cyhoeddwyd y cyllid £1.5 miliwn diweddaraf ym mis Mawrth 2017, fel rhan o'i gynllun grant Cronfa Trafnidiaeth Leol.

Wedi ei bostio ar 18/10/2017