Skip to main content

Y Cyngor yn gweithredu ar broblem deunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar drigolion i beidio â gwastraffu eu gwastraff mewn ymateb i'r broblem gynyddol o ailgylchu wedi'i lygru - ac yn benodol, y mater o roi gwastraff bwyd mewn bagiau ailgylchu cyffredinol.

Diolch i ymdrechion trigolion  mae cyfraddau ailgylchu yn y Fwrdeistref Sirol yn cynyddu, a chofnodwyd record newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf pan gafodd 64% o'r gwastraff cyffredinol ei ailgylchu yn y flwyddyn galendr 2016. Roedd y ffigurau yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (63%) a tharged Llywodraeth Cymru o 58%  - ond bydd y targed yn cynyddu i 70% erbyn 2024-25.

Mae llawer o drigolion yn ymateb i neges ailgylchu'r Cyngor, ond mae problem gynyddol o ddeunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru yn atal y Cyngor rhag ailddefnyddio llawer o eitemau, er gwaethaf bwriad trigolion i'w hailgylchu.

Eitemau mae modd eu hailgylchu sydd wedi eu trochi â halogyddion yw’r deunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru - enghraifft bob dydd o hyn yw rhoi gwastraff bwyd neu gewynnau yn yr un bag ag ailgylchu sych. Gall halogi hefyd ddigwydd pan fo cynhwysyddion bwyd sydd heb eu glanhau'n iawn gael eu rhoi mewn bag ailgylchu sych.

Gall hyn  arwain at gynnwys y bag cyfan yn cael ei wastraffu. Dyna pam mae'r Cyngor yn cymryd y mater o ddifrif ac  yn gweithredu  yn erbyn troseddwyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae cyfraddau ailgylchu ar hyn o bryd ar y lefel uchaf erioed yn Rhondda Cynon Taf, gan gymharu'n ffafriol ag ardaloedd eraill yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n uwch na tharged Llywodraeth Cymru, ond bydd y ffigwr yn codi i 70% yn y blynyddoedd i ddod felly mae'n bwysig gweld y cynnydd yn parhau.

"Gall peidio â glanhau cynwysyddion bwyd cyn eu hailgylchu, neu roi gwastraff bwyd neu gewynnau gyda'ch bag ailgylchu sych, arwain at wastraffu gwastraff ailgylchu wythnos gyfan. Mae'r neges yn glir, peidiwch â gwastraffu'ch gwastraff

"Mae'r Cyngor yn darparu casgliadau gwastraff bwyd wythnosol a chynllun ailgylchu cewynnau mewn ymdrech i wneud ailgylchu mor hawdd â phosibl i drigolion.

"Trwy lanhau'ch cynwysyddion bwyd ailgylchadwy a rhoi gwastraff bwyd yn eich bagiau gwastraff bwyd ar wahân, fe fyddwch chi'n helpu i wneud gwahaniaeth mawr i'r nifer o eitemau y gallwn ni eu hailgylchu a’u hailddefnyddio."

 Am ragor o wybodaeth am ddeunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru, a sut i'w osgoi, ewch i  http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/ContaminatedRecyclingWaste.aspx .

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu - gan gynnwys beth sy'n mynd yn eich biniau a manylion ynghylch y saith Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 31/10/17