Skip to main content

Gwasanaeth Cysegru Cofeb Ryfel Llantrisant

Mae Gwasanaeth Cysegru cyhoeddus teimladwy wedi cael ei gynnal ger Cofeb Ryfel Llantrisant er cof am y meirwon.

Daeth y gymuned at ei gilydd i fyfyrio ac i gofio am y rheiny a wnaeth yr aberth mwyaf yn ystod rhyfel a gwrthdaro. Mae eu henwau wedi'u nodi ar Garreg Portland yng Nghylch y Teirw.

Agorwyd y Gwasanaeth Teyrnged gan y Cynghorydd Glynne Homes, Cynghorydd y ward a Chadeirydd Pwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant. Cafodd y Gwasanaeth ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a'r Pwyllgor.

Ymunodd unigolion o bob oed o'r gymuned leol â phobl bwysig, wedi'u harwain gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Kate Thomas; Uchel Siryf Morgannwg Ganol, David Davies; Maer Rhondda Cynon Taf, Y Cynghorydd Margaret Tegg a'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Dirprwy Llywydd Pwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant.

Arweinydd yr Achlysur oedd Creighton Lewis OBE a chafwyd darlleniadau gan Canon Viv Parkinson o Blwyf Llantrisant, a'r Tad Allan Davies-Hale o Eglwys Dyfrig Sant, Llantrisant.

Ymhlith y bobl eraill a oedd wedi cymryd rhan yn y Gwasanaeth Cysegru oedd Peter Wilson o'r Lleng Brydeinig Frenhinol; Tony Cale o Bwyllgor Cofeb Ryfel Llantrisant a Matthew Giles a chwaraeodd Yr Utgorn Olaf.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae Cofeb Ryfel Llantrisant yn deyrnged briodol iawn i'r dynion a'r menywod lleol a fu farw wrth amddiffyn ein gwlad a'n gwerthoedd yn ystod rhyfel a gwrthdaro.

"Mae'r dewrder a ddangoswyd gan bob un o'r rheiny sydd wedi'u henwi ar y gofeb yn atgof trist o'r effaith dinistriol y mae rhyfel yn ei gael ar ein cymunedau. Mae hefyd yn ein hysbrydoli ni i wynebu heriau gydag ymrwymiad a dewrder ar bob adeg. 

"Mae Gwasanaethau fel hyn yn rhan hanfodol o sicrhau bod pob un o'r storïau nodedig yma sy'n sôn am aberth a dewrder yn parhau ac yn cael eu cofio gan y gymuned.

"Mae'r Cyngor yn parhau i arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau i aelodau cyfredol a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd. Mae'r Cyngor yn gwneud hyn trwy'r Cyfamod y Lluoedd Arfog sydd wedi ennill gwobr aur.

"Mae'r gwasanaethau yma'n ategu ein hymrwymiad cyson i gymuned filwrol Rhondda Cynon Taf."

Cafwyd munud o dawelwch yn ystod y Gwasanaeth Cysegru, cyn gosod torchau pabi ar Gofeb Ryfel newydd Llantrisant, a gafodd ei dadorchuddio'n swyddogol yng Nghylch y Teirw ar Ddiwrnod Cadoediad 2016, yn dilyn naw mlynedd o waith ac ymchwil.

Mae Cofeb Ryfel Llantrisant nawr yn ganolbwynt i Gylch y Teirw, yng nghalon y gymuned.

Wedi ei bostio ar 09/10/2017