Skip to main content

Sicrhau Arian i Brosiect Forté

Disgwylir i ragor o fandiau a pherfformwyr unigol dorri drwodd o ganlyniad i lwyddiant Prosiect Forté. 

O ganlyniad i sicrhau arian i 2018, bydd Prosiect Forté yn parhau â'i waith gwerthfawr o ddarganfod a meithrin talentau newydd ym mhob rhan o'r De. 

Mae Prosiect Forté ar ei ail flwyddyn bellach, ac yn gweithio gyda 10 o actau newydd sy'n dod i'r fei wrth i'r rheiny gychwyn ar eu teithiau cerddorol drwy fyd cerddoriaeth. 

Dyma'r rhai a gafodd eu dewis i fod yn rhan o Brosiect Forté 2017: Chroma, band roc amgen; The Pitchforks, band pop annibynnol pedwar aelod; Public Order; Local Enemy; Chew; Atterbury & Gibbz; CWCW; Rebecca Hurn, a Joel Alex. 

Mae pob un o'r deg act yma wedi recordio deunydd newydd gyda chymorth Prosiect Forté. Disgwylir iddynt ryddhau'r deunydd yma yn y misoedd a ddaw. 

Mae Chroma, band o Bontypridd, eisoes wedi cipio gwobr y Band Newydd Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd, yn ogystal â pherfformio yng Ngŵyl Ffocws Cymru yn Wrecsam, Parti Ponty ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ac yng Ngŵyl y Caws Mawr yng Nghaerffili. 

Yn fand o'r Rhondda, mae The Pitchforks hefyd wedi perfformio yng Ngŵyl y Caws Mawr. Maent newydd rhyddhau sengl,  The Moon

Bydd Prosiect Forté yn pennu mentoriaid y diwydiant i'r actau hyn, i weithio ochr yn ochr â nhw ac i'w cynorthwyo ar eu taith gerddorol ar bwynt tyngedfennol yn eu gyrfaoedd.  

Gan fod Prosiect Forté wedi sicrhau arian bellach o Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Cymdeithas Hawliau Perfformio Cerddoriaeth, byddant yn cychwyn ar eu proses ddewis ar gyfer 2018 ym mis Tachwedd. 

"Cafodd Prosiect Forté eiffurfio yn 2016," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "ac maent eisoes wedi cynorthwyo 20 o actau i gymryd eu camau petrus cyntaf yn niwydiant hynod gystadleuol cerddoriaeth. Mae'r cyhoeddiad ariannu yma yn cydnabod holl waith da'r prosiect, ac yn ei alluogi i barhau. 

“Mae'r Cyngor wrth ei fodd yn parhau i gynorthwyo Prosiect Forté. Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o gynhyrchu rhai o artistiaid gorau’r byd - yn enwedig Syr Tom Jones a'r Stereophonics. 

"Ond darganfod talentau ffres newydd yw nod Prosiect Forté. Mae am eu meithrin, ac estyn cyfle i'r perfformwyr hyn gael eu cydnabod gan bobl ddylanwadol. 

Mae Prosiect Forté yn cwmpasu ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, a Bro Morgannwg.  

Mae Prosiect Forté, ar y cyd â Thîm Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG y Cyngor, yn cynorthwyo artistiaid i ennill profiad gwerthfawr o weithdai cân-ysgrifennu, seminarau gysylltiedig â diwydiant, cymorth i fynd ar drywydd cyfleoedd, cymorth i ymarfer, sesiynau recordio, cymorth datblygu cynulleidfa bwrpasol ac ystod o gyfleoedd byw unigryw drwy gydol y flwyddyn.  

Wedi ei bostio ar 12/10/17