Skip to main content

Panto Hudol y Nadolig

Ydych chi'n barod am antur fawr i'r teulu cyfan? Dewch ar fwrdd carped hedfan Aladin i wlad hud a lledrith. 

Dewch ar daith drwy amser, yn ôl i ddinas Beijing amser maith yn ôl. Bydd eich taith hud yn cychwyn yn theatrau Rhondda Cynon Taf drwy gydol mis Rhagfyr. 

Mae'r Cyngor wrth eu bodd yn cyhoeddi fod y pantomeim teuluol 'Aladdin' i'w llwyfannu yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr hefyd y mis Rhagfyr yma. 

'Aladdin': Archebwch eich tocynnau ar-lein heddiw! 

Frank Vickery, ffefryn y Cymoedd, a Maxwell James fel yr hynaws Aladdin, fydd yn y prif rannau. 

Cafodd Maxwell ei hyfforddiant yn Academi Celfyddydau Theatr Mountview, Llundain. Mae wedi chwarae prif rannau yng nghynhyrchiad Mal Pope 'Capuccino Girls', a chynhyrchiad Theatr Hijinx o 'The Adventures of Sancho Panza'. 

Yn frodor balch o fro ei febyd yn y Rhondda, mae Frank wedi ennill llu o wobrau fel dramodydd ac fel actor. Cynhyrchodd nifer o'i ddramâu ei hun, gan gynnwys 'See You Tomorrow', 'Tonto Evans', 'Amazing Grace', 'Granny Annie', 'Erogenous Zones', 'Loose Ends', 'A Night on the Tiles', 'Roots and Wings', 'Family Planning', 'Trivial Pursuits' a 'Tonto Evans'

'Aladdin' yw seithfed pantomeim Frank yn Rhondda Cynon Taf. Bydd Frank ei hun yn chwarae un o'r prif rannau, sef y Weddw Twankey. 

Mewn prif rannau eraill yn y sioe dymhorol yma fydd Laura Clements fel y Dywysoges Jasmin, Lee Gilbert fel y dihiryn Abanazar, Ryan Owen fel Tommy'r Gath, Jared Chinnock fel Ysbryd y Lamp, Tamara Brabon fel Ysbryd y Fodrwy, Bridie Smith fel Plismon Ping, a Deiniol Wyn Rees fel Plismon Pong. 

Awdur y sgript a chyfarwyddwr y pantomeim yw Richard Tunley, sy'n chwarae rhan yr Ymerawdwr. 

"Mae tymor y Nadolig wastad yn amser arbennig iawn o'r flwyddyn," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Hamdden "ac un o'n harferion mwyaf arbennig yw mynd â'r teulu i bantomeim, un o draddodiadau hanes y theatr. 

Mae'r Cyngor wrth eu bodd yn cyhoeddi unwaith eto y caiff eu pantomeim teuluol ei lwyfannu yn Theatr y Colisëwm yn Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci hefyd. 

"Bu Frank Vickery yn gweithio yn ein theatrau am flynyddoedd lawer. Bellach, rydym ni'n ei gyfrif yn un o gonglfeini'r pantomeim heblaw am ei fod yn ddramodydd talentog dros ben yn rhinwedd ei hawl ei hun. 

"Mi wn y bydd Frank, yn ei ddull dihafal ei hun, yn dod â'r Weddw Twankey yn fyw o flaen llygaid plant ac oedolion fel ei gilydd. 

"Mae'r Cyngor wrth eu bodd yn croesawu rhai o'n ffefrynnau theatr yn ôl hefyd. Byd dy rhain yn cynnwys Maxwell James, Lee Gilbert ac, wrth gwrs, Richard Tunley, awdur a chyfarwyddydd ein pantomeim. 

Mae cynhyrchiad pantomeim 2017 'Aladdin' yn dilyn yn dynn ar sodlau panto ysgubol o lwyddiannus  y Cyngor 'Dick Whittington' y tymor diwethaf. 

Yn ystod y gyfres o berfformiadau yn y ddwy theatr, bydd ‘Perfformiadau Rhydd a Hamddenol’ o'r pantomeim 'Aladdin' ar gael ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu, a'u teuluoedd a'u gofalwyr. 

Bydd 'Aladdin' yn rhedeg yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr 1af-10fed Rhagfyr (dyddiadau penodol) a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci 16eg-24ain Rhagfyr.

Mae tocynnau i 'Aladdin' ar werth nawr. Oedolion £15.50; Consesiynau £12.50; Tocyn teulu £48; Grwpiau o 20 a rhagor £9.00. Mae amseroedd y perfformiadau yn amrywio.

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444, neu ymweld ag www.rct-arts.co.uk.

Bydd perfformiadau i ysgolion yn rhedeg o Ddydd Iau, 30ain Tachwedd, i Ddydd Mercher, 12fed Rhagfyr. 

Wedi ei bostio ar 06/10/2017