Skip to main content

Rhagor o leoedd parcio yng ngorsaf Abercynon

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wrthi yn creu 11 o leoedd parcio safonol newydd yng ngorsaf Abercynon yn rhan o estyniad i'r Cynllun Parcio a Theithio.

Yn ystod mis Medi, cytunodd y Cabinet i roi cynlluniau ar waith ar gyfer Cynlluniau Parcio a Theithio newydd er mwyn gwella darpariaeth parcio mewn gorsafoedd ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Bydd cyfanswm cyfunol o 600+ o leoedd parcio newydd yn cael eu creu.

Rhoddodd cam cyntaf Cynllun Parcio a Theithio Abercynon hwb mawr i gymudwyr pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 2009, a'i gyflawni yn 2010. Darparodd dros 150 o leoedd parcio ar dir a oedd yn segur ar y pryd, i'r dwyrain o'r orsaf. Cafodd pont newydd ei chodi dros yr afon i gysylltu'r safle â Pharc Busnes Hen Lofa'r Navigation.

Mae'r lleoedd ychwanegol wedi cael eu creu drwy ailasesu'r lleoedd a oedd yno, ynghyd ag addasu'r cyrbau a oedd yno. Mae gwaith wedi dechrau yn ddiweddar ar drefn newydd y maes parcio. Bydd yn cynnwys adleoli goleuadau, gosod arwyddion ffordd newydd, a newid marciau ffordd.

Mae cyfanswm o 11 o leoedd parcio safonol yn cael eu creu drwy fuddsoddiad o £24,000 gan y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella darpariaeth parcio mewn gorsafoedd trenau lleol, a chytunodd y Cabinet yn ddiweddar i roi cynlluniau ar waith ar gyfer 10 o Gynlluniau Parcio a Theithio ychwanegol. Bydd hyn yn ychwanegu at yr ymrwymiadau presennol i greu rhagor o leoedd parcio ym Mhont-y-Clun, ac i gyflawni cam dau yng Nghynllun Parcio a Theithio y Porth.

“Byddai datblygu'r cynlluniau ychwanegol hyn yn lleihau amser teithio a chostau tanwydd cymudwyr, yn lleihau tagfeydd ar y ffyrdd, ac yn gwneud lles i'r amgylchedd. Mae buddsoddiad y Cyngor yn y cynlluniau hyn yn ategu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r prosiect Metro.

“Mae'r Cyngor yn manteisio ar gyfle i gynyddu nifer y lleoedd parcio safonol yng ngorsaf Abercynon drwy addasu'r drefn bresennol. Bydd hyn yn sicrhau darparu rhagor o leoedd parcio ar gyfer yr aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r orsaf.”

Wedi ei bostio ar 18/10/17