Skip to main content

Man man croesi diogel newydd yn y Gilfach Goch

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dechrau gwaith i gyflwyno man croesi diogel yn y Gilfach Goch ac i wella diogelwch cerddwyr yn agos i lety tai gwarchod.

Bydd y Cyngor yn gosod croesfan pâl a reolir gan signalau traffig newydd yn Coronation Road, sy'n rhedeg o flaen Tai Gwarchod Sŵn-yr-Afon. Yn ogystal â hynny, mae'r cynllun ehangach yn cynnwys diwygio llinellau cwrb, yn ogystal â gosod goleuadau stryd newydd, offer signalau traffig, a marciau ffordd.

Dechreuodd y Cyngor weithio ar y cynllun o ddydd Llun, 9 Hydref, yn dilyn cyfanswm buddsoddiad o £70,000. Mae'r Cyngor wedi cyfrannu £20,000. Daeth cyllid o £35,000 o Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt y Mynydd cwmni REG Power Management, a chyfrannodd Cyngor Cymuned Gilfach Goch £15,000.

Bydd y cynllun yn parhau tua phedair wythnos. Caiff mesurau rheoli traffig dros dro eu rhoi ar waith ar y briffordd drwy gydol y gwaith.

"Mae gwaith yn mynd ymlaen nawr i wella diogelwch cerddwyr yn yr ardal yma o'r Gilfach Goch sy'n gwasanaethu'r tai gwarchod gerllaw," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd. “Mae gwella ein priffyrdd yn flaenoriaeth i'r Cyngor drwy #BuddsoddiadRhCT, er budd diogelwch y preswylwyr.

“Cafodd y cynllun £70,000 ei ariannu gan fuddsoddiad drwy Raglen Gyfalaf 2017/18 y Cyngor, yn ogystal â chyfraniadau sylweddol o'r Cyngor Cymuned ac o Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt y Mynydd. Dengys hyn fod y Cyngor yn ceisio chwilio am arian allanol lle bo modd er mwyn cyflwyno prosiectau yn lleol.

"Caiff mesurau rheoli traffig dros dro eu defnyddio i hwyluso'r gwaith. Hoffwn i ddiolch i breswylwyr lleol a defnyddwyr ffyrdd am eu cydweithrediad drwy gydol y cynllun."

Wedi ei bostio ar 13/10/17