Skip to main content

Llwybr diogel yn y gymuned ar bwys Ysgol Sirol Cymuned y Porth

Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith i ddarparu llwybr mwy diogel yn y gymuned ar bwys Ysgol Sirol Cymuned y Porth ar ôl sicrhau grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun – sydd werth £225,000 – yn cynnwys cyflwyno parth 20 milltir yr awr yn Heol y Fynwent, gosod croesfan sebra newydd â thwmpath, codi dwy groesfan sebra sydd yno yn barod, a gosod llwyfan ar draws y ffordd gerbydau i'w defnyddio gan y cynorthwy-ydd croesi i'r ysgol.

Mae'r gwaith yn gysylltiedig â'r buddsoddiad yn y Porth yn rhan o'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Bydd y gwaith yn dechrau ar ddydd Llun 23 Hydref, ond, fydd gwaith gosod croesfan sebra newydd ar bwys mynedfa'r ysgol ddim yn dechrau tan haf 2018, ar ôl i waith ailddatblygu'r ysgol ddod i ben.

Bydd angen defnyddio arwyddion traffig dros dro i reoli'r traffig yn ystod cam cyntaf y cynllun. Mae disgwyl i'r gwaith fynd yn ei flaen am tua wyth wythnos.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu trwy grant o £120,000 gan Lywodraeth Cymru a buddsoddiad o £105,000 gan y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd: “Mae'r Cyngor wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r cynllun yma o ran diogelwch ar y ffyrdd yn y Porth. Mae'n gysylltiedig â buddsoddiad yn rhan o'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i greu ysgol newydd ar gyfer disgyblion 3 oed i 16 oed yn y Porth.

“Bydd y gwaith yn sicrhau bod ardal Heol y Fynwent, ar bwys yr ysgol, yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a chymudwyr.

“Bydd angen rheoli'r traffig ar adegau, a bydd y Cyngor yn sicrhau bod hyn yn amharu cyn lleied ag sy'n bosibl ar y trigolion lleol a defnyddwyr y ffordd.”

Wedi ei bostio ar 23/10/17