Skip to main content

Datganiad ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol

Mae Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y prynhawn yma, wedi nodi bydd gostyngiad o 0.2% yn y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Dyma'r hyn ddywedodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y Setliad Dros Dro: "Dyma setliad rhesymol ar gyfer llywodraeth leol a Rhondda Cynon Taf gan gofio'r saith mlynedd o galedi cenedlaethol a'r gostyngiadau sylweddol i gyllid y sector cyhoeddus yng Nghymru.

"O ystyried bod cyllid Cymru wedi gostwng 7% mewn gwirionedd ers 2010, sydd cyfwerth ag £1.2 biliwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas, yn yr amgylchiadau ariannol heriol yma, i liniaru'r effaith ar wasanaethau'r Cyngor, ac mae Rhondda Cynon Taf wedi cael setliad teg a rhesymol.

"Yn ogystal â chostau a gofynion cynyddol, mae'r gostyngiad yma yn golygu bydd angen i'r Cyngor, unwaith eto, ystyried sut i fynd i'r afael â'r her yma.

"Byddwn ni'n parhau â'n dull rhagweithiol, sef parhau i ganolbwyntio ar fod yn effeithlon, drwy newid y ffordd rydyn ni'n cynnal gwasanaethau a buddsoddi mewn meysydd allweddol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 11/10/17