Skip to main content

Cyngerdd Goffa

Eleni, caiff y Gyngerdd Goffa ei chynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr - mae'r tocynnau ar werth nawr. 

Bydd y Gyngerdd Goffa yn digwydd am 7.00pm ddydd Sul, 5 Tachwedd, i anrhydeddu ein Lluoedd Arfog. 

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n trefnu'r gyngerdd, mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae modd i chi brynu tocynnau nawr drwy fynd ar-lein neu ffonio 03000 040 444. 

Tocynnau'r Gyngerdd Goffa 

Mae'r achlysur blynyddol yn gyfle i drigolion Rhondda Cynon Taf ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog ac i'r Lleng Brydeinig Frenhinol. 

Bydd y Gyngerdd Goffa yn 2017 yn cynnwys Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol, gyda'r Cyfarwyddwr Cerdd, yr Uwchgapten Denis Burton. 

Y band yma yw'r band pres olaf sy'n rhan o wasanaeth cerddoriaeth y Fyddin Brydeinig ac mae'n chwarae'n aml yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd yn ystod cystadleuaeth rygbi'r Chwe Gwlad. 

Mae repertoire amryddawn y band yn unigryw a phoblogaidd iawn, a bydd e’n perfformio detholiad o ddarnau drwy gydol yr achlysur. 

Yn ogystal â hynny, bydd Urker Zangers, sef côr meibion o'r Iseldiroedd, yn perfformio yn yr achlysur. Mae'r côr wrthi'n dathlu 40 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu yn 1968.  Mae'r côr wedi perfformio amrywiaeth o ganeuon mewn cyngherddau ledled y byd, ac mae'n aml i'w weld ar y teledu yn yr Iseldiroedd. 

Dywedodd Maer Rhondda Cynon Taf, sef y Cynghorydd Margaret Tegg: "Mae'r Gyngerdd Goffa yn achlysur pwysig yn ein calendr o flwyddyn i flwyddyn. Rydyn ni'n dal ati i gefnogi aelodau'r Lluoedd Arfog o'r gorffennol a'r presennol, ni waeth a ydyn nhw gartref neu dramor. 

"Mae'n gyfle i ni fyfyrio a dangos pa mor ddiolchgar ydyn ni i'r holl bobl leol sy'n rhan o'r Lluoedd Arfog, neu sy wedi bod yn rhan ohonyn nhw. 

"Yn ogystal â hynny, mae'r Gyngerdd Goffa yn gyfle i'n cymunedau gydnabod gwaith, ymroddiad a dewrder Y Lleng Brydeinig Frenhinol." 

Cafodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei ffurfio ym 1921, drwy uno pedwar o gyrff cenedlaethol oedd yn cynnwys cyn-filwyr a gafodd eu sefydlu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Caiff Apêl y Pabi, sy'n darparu gwasanaeth cymorth a chefnogaeth werthfawr i'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ei lansio ym mis Tachwedd 1921. 

Cynhelir y Gyngerdd Goffa yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, ddydd Sul, 5 Tachwedd, am 7.00pm. Drysau'n agor am 6.30pm. 

Pris y tocynnau yw £6 sydd ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar www.rct-theatres.co.uk

Bydd yr holl enillion a godir ar y noson yn mynd i Apêl Pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Wedi ei bostio ar 14/09/17