Skip to main content

Cabinet yn cytuno ar gynigion ar gyfer arbedion Uwch Reolwyr

Mae Aelodau o'r Cabinet wedi cytuno ar gynigion i ailstrwythuro swyddogaethau uwch reolwyr am y pedwerydd tro ers 2015, a fydd yn dod â chyfanswm arbedion y Cyngor yn y maes yma i £2.7 miliwn.

Cafodd adroddiad cyfrinachol y Prif Weithredwr i'r Cabinet ei ystyried mewn cyfarfod ar 19 Medi, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i weithredu pedwerydd cyfnod o ddiwygiadau arfaethedig i Strwythur yr Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor - sy'n lleihau costau rheolwyr o £776,116.

Yn dilyn trafodaethau gan y Cabinet, bydd adroddiadau perthnasol eraill yn cael eu hystyried gan y Cyngor Llawn a Phwyllgor Penodiadau er mwyn cyflawni'r arbedion arfaethedig.

Dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae ein hymagwedd ragweithiol hyd yn hyn wedi sicrhau, er gwaethaf gostyngiadau sylweddol yn y cyllid dros y pum mlynedd ddiwethaf, ein bod ni wedi gallu parhau i fuddsoddi ym meysydd allweddol Rhondda Cynon Taf. Mae rhaid i'r ymagwedd yma barhau gan ein bod ni'n gwybod bod caledi yn mynd i barhau yn y dyfodol.

"Mae'n debyg y caiff y rhagolwg yma ei gadarnhau pan fydd y Canghellor yn datgelu'r dyraniad arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru yr hydref yma. Dyma'r rheswm i adroddiad sy'n nodi'r arbedion arfaethedig i strwythur yr Uwch Reolwyr gael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth. Cytunodd Aelodau ar y cynigion, a bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn a'r Pwyllgor Penodiadau cyn bo hir.

"Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i weld yr arbedion all gael eu cyflawni yn sgil ailstrwythuro swyddogaethau’r Prif Swyddogion. Bydd y cynigion diweddaraf yn codi cyfanswm yr arbedion yn y maes yma i dros £2.7miliwn ers 2015.

"Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u nodi yn yr adroddiad yn lleihau costau ac yn sicrhau bod y Cyngor fel sefydliad yn parhau i esblygu, nid yn unig trwy weithredu yn y modd mwyaf effeithlon, trwy gwrdd â heriau sy'n ei wynebu. Mae rhaid i hyn gael ei wneud wrth gadw craidd corfforaethol cadarn sy'n hynod bwysig i waith cynnal gwasanaethau i'r cyhoedd. 

"Mae'r ymagwedd yma yn pwysleisio unwaith yn rhagor fod pob gwasanaeth sy'n cael arian y Cyngor dan y chwyddwydr yn ystod y cyfnod ariannol anodd yma, er mwyn cau'r bwlch ariannol ac i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen, sy'n werthfawr i'r cyhoedd, yn cael eu diogelu rhag y toriadau rydyn ni'n eu hwynebu i'r sector cyhoeddus."

Wedi ei bostio ar 22/09/2017