Skip to main content

Noson Elvis i Godi Arian

Hoffen ni estyn gwahoddiad i bobl sy'n dwlu ar Elvis ymuno â ni ar gyfer achlysur sy'n dathlu cerddoriaeth y Brenin Roc a Rôl wrth godi arian ar gyfer elusennau. 

Bydd Noson Teyrnged Elvis Presley, er budd Apêl Elusennau'r Maer Rhondda Cynon Taf, yn cael ei chynnal ar 6 Hydref. Mae tocynnau ar werth nawr. 

Bydd yr achlysur yn cynnwys perfformiad o ganeuon mwyaf llwyddiannus Elvis 40 blynedd ar ôl iddo farw. Caiff y caneuon yma eu perfformio gan Ponty Presley, un o gantorion mwyaf poblogaidd Gŵyl Elvis sy'n cael ei chynnal ym Mhorthcawl bob blwyddyn. 

Meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf: "Roedd Elvis Presley yn ddiddanwr a oedd yn apelio at bobl o bob oed, o bobl ifainc hyd at hen-dad-cu neu hen-fam-gu. 

"Mae ei gerddoriaeth yn parhau i adlonni - hyd yn oed gan bobl a oedd heb gael eu geni pan fu farw Elvis 40 mlynedd yn ôl. 

"Ponty Presley yw un o berfformwyr teyrnged gorau ei faes. Mae'n derbyn cymeradwyaeth fyddarol ar ôl pob perfformiad. 

"Dewch yn llu i'n cefnogi ni. Mae'n siwr o fod yn noson wych a byddwn ni'n codi arian ar gyfer elusennau a sefydliadau gwerth chweil sy'n darparu gwasanaethau gwerthfawr i'n cymunedau." 

Cafodd Elvis Aaron Presley ei eni yn Tupelo yn 1935. Roedd yn fab i Vernon a Gladys Presley. Aeth Elvis ymlaen i gymryd ei le ar frig y siartiau a daeth yn un o'r adlonwyr mwyaf llwyddiannus erioed. 

Serennodd mewn 33 ffilm, gwerthodd dros un biliwn o recordiau, ac enillodd nifer fawr o wobrau aur a phlatinwm. Enillodd wobr Cyflawniad Oes y Grammy pan oedd yn 36 oed. 

Bu farw Elvis yn ei gartref, Graceland, ym Memphis ar 16 Awst 1977. Roedd yn 42 oed.

Ond, pedwar deg o flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, mae ei gefnogwyr yn parhau i brynu ei gerddoriaeth, ymweld â'i gartref ac yn mynd yn llu i Ŵyl Elvis bob blwyddyn. 

Mae Ponty Presley yn falch iawn o gefnogi Apêl Elusennau'r Maer, bydd e'n perfformio caneuon mwyaf poblogaidd y "Brenin" o bob cyfnod o'i yrfa, o'r blynyddoedd cynnar hyd at ei sioeau bythgofiadwy yn Las Vegas. 

Bydd yr holl arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at Apêl Elusennau'r Maer 2017. Eleni mae'r Apêl yn cefnogi Cymdeithas Alzheimer Cymru; Cŵn Tywys Cymru; Ysbyty Gofal Diwedd Oes Y Bwthyn, Pontypridd; Ffrindiau Anifeiliaid Cymru, a oedd yn arfer cael ei alw'n Ffrindiau Anifeiliaid RhCT. 

Caiff Noson Teyrnged Elvis, sy'n serennu Ponty Presley, ei chynnal yn Neuadd a Sefydliad Gweithwyr y Cymer, Office Street, Y Porth, CF39 9AH, ddydd Gwener 6 Hydref (7.30pm). Mae modd prynu tocynnau am £5 drwy ffonio 01443 424048 neu e-bostio maer@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Wedi ei bostio ar 20/09/2017