Skip to main content

Goleuadau, Camera, Amdani

Mae dau berson ifanc o Rondda Cynon Taf wedi ennill gwobrau yn seremoni gwobrau It's My Shout a gafodd ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm.

Enillodd Chloe Copper wobr yr Actores Oorau ac enillodd Philip Jones wobr yr Actor Gorau yn ystod yr achlysur 'Carped Coch' yng Nghanolfan y Mileniwm.

Bob blwyddyn, mae cwmni It's My Shout Production yn cynhyrchu ffilmiau byrion i BBC Cymru, S4C, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hyn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i bobl ifanc yn y diwydiannau creadigol. 

Treuliodd arbenigwyr y diwydiant yr haf yn rhannu eu profiadau, sgiliau a'u hyder gyda gweithwyr dan hyfforddiant ac maen nhw'n parhau i fod yn angerddol dros fagu, datblygu a darganfod talent newydd. 

Ar ôl cael eu dangos am y tro cyntaf yn Seremoni Wobrwyo It's My Shout, mae cyfres o ffilmiau byrion yn cael eu cynhyrchu a'u dangos ar y teledu i gynulleidfa ehangach. 

Mae Chloe Cooper, 17, yn fyfyrwraig Lefel A sy'n astudio'r Gymraeg, Saesneg a Drama yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Enillodd hi'r wobr am yr Actores Orau am ei rôl hi yn y ffilm Peggy

Mae Chloe hefyd yn astudio gyda Theatr Ieuenctid Cymru a Choleg Cerdd a Drama Cymru.

Enillodd Phillip Jones, 23 oed o Ynys-y-bwl, y wobr am yr Actor Gorau am ei rôl ef yn y ffilm The Package. Mae Phillip yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Pontypridd a Phrifysgol De Cymru a bellach yn astudio yn East 15 School of Action yn Essex.

Roedd yna naw cynhyrchiad It's My Shout eleni. Roedd nifer o breswylwyr lleol eraill yn rhan o'r noson. Llwyddodd James Owen i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yr Actor Gorau am ei rôl ef yn y ffilm Lawr A Lan; serennodd Vicky Owen yn y ffilm Closure. Roedd Lee Slocombe, sy'n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, yn gynorthwy-ydd cynhyrchu ar The Package a Ieuanc Matthews a oedd hefyd wedi gweithio ar The Package yn ogystal â Home a enillodd Wobr y Ffilm Orau. 

Cafodd y prosiect ar gyfer 2017 ei lansio ym Mhontypridd ym mis Mawrth. Daeth dros 30 o bobl ifainc Rhondda Cynon Taf at ei gilydd, gydag eraill o bob rhan o'r De, i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: "Mae'n wych bod preswylwyr Rhondda Cynon Taf yn rhan weithredol o fenter It's My Shout, yn enwedig Phillip a Chloe a enillodd wobrau eleni. 

"Mae yna nifer o bobl dalentog yn ein cymunedau ni sydd eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiant teledu a ffilm. Mae It's My Shout yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw arddangos eu doniau. 

"Eleni, mae mwy o weithwyr dan hyfforddiant o Rondda Cynon Taf wedi bod yn rhan o'n cynlluniau ffilm nag erioed o'r blaen. Mae It's My Shout yn parhau i gydnabod doniau artistig a chreadigol ein pobl ifainc. 

"Gyda chefnogaeth menter ClymuCelf wedi'i chefnogi gan Gyngor RhCT, mae It's My Shout wedi agor nifer o ddrysau ar gyfer pobl ifainc yr ardal ers nifer o flynyddoedd. Mae nifer o weithwyr dan hyfforddiant wedi symud ymlaen at ddechrau yrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant." 

Ymhlith yr actorion ifainc sy'n chwarae rolau blaengar yn It's My Shout 2017 yw gweithwyr dan hyfforddiant Rhondda Cynon Taf James Owen (Lawr a Lan), Victoria Owen (Closure), Chloe Cooper (Peggy) a Phillip Jones (The Package). 

Mae actorion cynorthwyol o'r ardal yn cynnwys India Lloyd Evans, Shaun David Evans, Ieuan Matthews, Alison Kirby, Huw Williams, Megan Sawyer a Kirsten Roberts. 

Roedd Ieuan Matthews hefyd yn rhedwr ar gyfer ffilmiau byrion Rory Romantic, The Package a Faces

Caiff It's My Shout ei gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o ClymuCelf, partneriaeth allweddol rhwng gwasanaethau celfyddydau'r awdurdod lleol yn y Fwrdeistref Sirol, Caerffili, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chaerdydd. 

Yn ogystal â rolau actio, mae gweithwyr dan hyfforddiant hefyd wedi cael cyfle i weithio mewn rôl cynhyrchu megis rolau camera a sain yn ogystal â rolau yn adrannau gwisg a gwallt a cholur. 

I fod yn rhan o gynlluniau It's My Shout yn y dyfodol, ewch i www.itsmyshout.co.uk neu ffonio 01656 858187. 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 20/09/17