Skip to main content

Gwelliannau sylweddol ar y gweill yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach

Mae cynlluniau ar y gweill i ailwampio Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach gyda buddsoddiad o dros hanner miliwn o bunnau er mwyn ei gwella a'i moderneiddio.

Bydd adroddiad sydd i'w drafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf yn cynnig ailwampio'r cyfleuster. Bydd hynny'n cynnwys ail-lunio'r pwll nofio a'r neuadd ynghyd â chreu cyfleuster ffitrwydd newydd. Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys troi rhan o'r adeilad yn faes chwaraeon 3G dan do ar gyfer pêl-droed pum bob ochr, hyfforddiant rygbi a Hwb Pêl-rwyd.

Os bydd y cynigion sydd yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo, bydd ymgynghoriad pedair wythnos o hyd yn cael ei gynnal gyda'r gwasanaethau sy'n ymwneud â'r cynnig a bydd y pwll gweithgareddau presennol yn cael ei gau i hwyluso'r newidiadau.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: “Nod y cynigion yma i fuddsoddi £500,000 yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach fydd moderneiddio'r cyfleusterau sy'n cael eu darparu. Bydd hyn yn cynnwys ystafell ffitrwydd newydd a throi rhan o'r adeilad yn faes chwaraeon 3G dan do ar gyfer pêl-droed pum bob ochr a hyfforddiant rygbi.

“Y brif flaenoriaeth sydd y tu ôl i'r cynnig yma yw diweddaru'r cyfleuster a gwella'r gwasanaethau hamdden sydd ar gael yn gyffredinol yn y Fwrdeistref Sirol.

“Bydd y cynnig yn golygu ailwampio'r cyfleuster presennol yn sylweddol, gyda chyfleusterau ffitrwydd llawer gwell a maes chwaraeon y gall clybiau a grwpiau chwaraeon eu defnyddio ym mhob tywydd.

“Byddai'r cynllun yn cynnwys cau'r pwll gweithgareddau presennol. Mae hyn wedi cael ei gynnwys oherwydd nad oes llawer o bobl yn ei ddefnyddio.

“Yn rhan o'r cynnig, fodd bynnag, mae potensial i wella'r pyllau nofio eraill yn ardal Cwm Rhondda. Bydd yr ardal sydd ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio ar gyfer y pwll gweithgareddau yn cael ei throi'n ardal ffitrwydd ddeulawr a fydd yn cynnig y cyfleusterau campfa a ffitrwydd mwyaf diweddar.

“Mae'r cynlluniau yma'n cynnig ailwampio'r cyfleuster yn sylweddol er mwyn sicrhau ei fod e'n addas at y diben yn ogystal â bod yn safle cynaliadwy o fewn ein cynnig hamdden ehangach yn y dyfodol. Rhondda Cynon Taf sy'n cynnig y ddarpariaeth hamdden fwyaf o holl fwrdeistrefi sirol eraill Cymru.

“Mae'r adroddiad a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet yr wythnos nesaf yn cynnig cynnal ymgynghoriad 4 wythnos â defnyddwyr y gwasanaeth a chlybiau chwaraeon ynghylch y cynlluniau cyn dod i benderfyniad.

“Gall y cynllun yma olygu bydd pob cyfleuster hamdden yn Rhondda Cynon Taf wedi cael buddsoddiad sylweddol dros y tair blynedd diwethaf.

“Rydyn ni'n credu'n gadarn y bydd buddsoddiad a gwaith moderneiddio yn rhoi'r dyfodol gorau posibl i'r cyfleuster gwerthfawr yma, ac mae'r cynnydd mewn defnyddwyr canolfannau eraill yn sgîl buddsoddi yn dangos bod ein dull gweithredu yn llwyddo.”

Wedi ei bostio ar 21/09/2017