Skip to main content

Wythnos Ailgylchu 2017 - Medi 25 a Rhagfyr 1

Mae Wythnos Ailgylchu 2017 yn prysur agosáu, ac mae'r Cyngor wrthi'n paratoi i ddathlu ein cyflawniad rhagorol ym maes ailgylchu, yn ogystal â lledaenu'r neges am ailddefnyddio gwastraff.

Caiff yr wythnos ailgylchu genedlaethol ei chynnal ledled y wlad rhwng Medi 25 a Rhagfyr 1 - ac eleni, mae lle i drigolion Rhondda Cynon Taf fod yn falch iawn o'u hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod mwy na 64% o'r gwastraff yn Rhondda Cynon Taf wedi'i ailgylchu yn ystod blwyddyn galendr 2016. Mae'r ganran yma yn rhagori ar unrhyw gyfnod o 12 mis yn hanes y Fwrdeistref Sirol, ac mae'n uwch na'r ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru (63%) a tharged cyfredol Llywodraeth Cymru (58%).

Yn ogystal â hynny, cafodd Y Sied ei hagor yng Nghanolfan Ailgylchu Cymuned Llantrisant yn ddiweddar. Mae'r siop arloesol yma yn annog pobl i ailddefnyddio er mwyn gwneud rhagor o ymdrech i ailgylchu. Mae'r gweithwyr a'r gwirfoddolwyr yn y siop yn dod o hyd i eitemau defnyddiol y mae pobl wedi cael gwared arnyn nhw, a chaiff yr eitemau eu gwerthu yn hytrach na'u hanfon i safle tirlenwi.

Er bod nifer cynyddol o bobl yn ymateb i her ailgylchu'r Cyngor, mae lle i wella o hyd. Bydd targed Llywodraeth Cymru yn codi i 70% erbyn 2024-25. Felly, byddai'n gwneud byd o wahaniaeth pe byddai pawb yn ailgylchu dim ond un eitem yn rhagor.

I nodi Wythnos Ailgylchu 2017, bydd carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn mynd ar daith i gwrdd â'r cyhoedd. Bydd y garfan yn rhoi bagiau ailgylchu AM DDIM i drigolion, yn ogystal â chyngor ar sut y mae modd gwneud rhagor i'n helpu ni i ailgylchu'n well.

Gwnewch nodyn o'r dyddiadau canlynol ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2017:

-       Dydd Llun, Medi 25 - Asda Tonypandy (10am-2pm)

-       Dydd Mawrth, Medi 26 - Asda Aberdâr (10am-2pm)

-       Dydd Mercher, Medi 27 - Tesco Glan-bad (10am-2pm)

-       Dydd Iau, Medi 28 - Dunraven Street, Tonypandy (10am-2pm)

-       Dydd Gwener, Medi 29 - Library Square, Aberdâr (10am-2pm)

-       Dydd Sadwrn, 30 Medi - Mill Street, Pontypridd (10am-4pm)

Wrth i ni agosáu at Wythnos Ailgylchu 2017, bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o ran hyn y mae modd iddyn nhw ei wneud er mwyn ailgylchu rhagor o eitemau. Yn ystod yr wythnos a fydd yn dechrau ar 18 Medi, bydd carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn mynd ar daith i gwrdd â myfyrwyr, gan ledaenu'r neges ynglŷn ag ailgylchu.

Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid er mwyn trafod y pethau bach y mae modd iddyn nhw eu gwneud i greu newid mawr. Mae hyn yn cynnwys darparu cadi bwyd mewn cartrefi a gosod poster ailgylchu, yn ogystal â darparu taflen wybodaeth am ailgylchu a chalendr sy'n nodi pryd y caiff gwastraff ei gasglu.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r Cyngor yn falch iawn o gymryd rhan yn Wythnos Ailgylchu 2017. Bydd ein carfan Gofal y Strydoedd yn cwrdd â thrigolion ledled y Fwrdeistref Sirol i drafod sut y gallwn ni ailgylchu hyd yn oed yn rhagor - er ein bod ni'n rhagori ar y cyfartaledd yng Nghymru yn barod.

"Yn y gorffennol, mae'r Wythnos Ailgylchu wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac rydw i'n siŵr y bydd hynny'n wir eleni hefyd. Rydw i'n annog ein trigolion i fynd i gwrdd â charfan Gofal y Strydoedd yn un o'r chwe achlysur sydd wedi'u trefnu, a hynny er mwyn cael syniadau am ragor o ffyrdd o ailgylchu, yn ogystal â gwybodaeth ac anogaeth.

"O ran ailddefnyddio gwastraff, rydyn ni'n gwneud cynnydd da yn Rhondda Cynon Taf. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n bwrw targed Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, rhaid i ni ymgysylltu â rhagor o bobl os ydyn ni am barhau i fwrw'r targedau a fydd yn mynd yn uwch bob blwyddyn. Dyma pam fod Wythnos Ailgylchu 2017 yn achlysur pwysig - rhaid annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan."

Mae gan y Cyngor saith Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned arbennig, sy'n ailgylchu mwy na 85% o'r holl eitemau a ddaw i law. Dyma ble mae'r canolfannau:

  • Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX 
  • Cymmer Road, Dinas Rhondda, CF39 9BL
  • Nantygwyddon Road, Y Gelli, CF41 7TL
  • North Road, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT
  • Ystad Ddiwydiannol Treherbert  Treherbert, CF42 5HZ. 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i:

http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/BinsandRecycling.aspx

Wedi ei bostio ar 18/09/2017