Skip to main content

Agor Ysgol Gyfun y Pant yn Swyddogol

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi agor Ysgol Gyfun y Pant, sy werth miliynau, yn swyddogol heddiw. 

Hwn yw cynllun mwyaf diweddar Rhaglen 21ain Ganrif Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnig y cyfleusterau addysg gorau ar gyfer staff, disgyblion a'r gymuned ehangach. 

Mae'r ysgol newydd sy'n defnyddio ynni cynaliadwy mewn modd effeithlon wedi cael ei hadeiladu a'i 'diogelu at y dyfodol' er mwyn cynnig cwricwlwm cynhwysol newydd ar gyfer Cymru sy'n ymgorffori mannau addysgu gwyddoniaeth, celf, technoleg bwyd a thechnoleg arbennig.

Mae gan yr ysgol isadeiledd sy'n galluogi dysgu digidol, mannau addysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, darlithfa, cyfleusterau bwyta modern, canolfan adnoddau dysgu newydd, prif neuadd yn ogystal â mannau penodol ar gyfer y Chweched Dosbarth. Mae hefyd siop goffi fodern. 

Mae'r ysgol newydd gwerth £24.1miliwn hefyd yn cynnwys man chwarae aml-ddefnydd yn ogystal â chae chwarae 3G aml-dywydd gyda llifoleuadau. Bydd y cae chwarae yma o fudd i'r ysgol a'r gymuned leol. Mae ganddo dau gae chwarae gwair ar gyfer gemau pêl-droed a rygbi. 

Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Mae'n bleser gen i fel Prif Weinidog Cymru agor Ysgol Gyfun y Pant yn swyddogol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron £12 miliwn tuag at y cynllun. 

"Mae hi wedi bod yn wych siarad â'r disgyblion a chlywed sut y bydd y cyfleusterau arbennig yma o fudd mawr iddyn nhw ac yn eu hysbrydoli i fanteisio i'r eithaf ar ddiwrnod ysgol." 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Mae'n arbennig dathlu cwblhau cynllun diweddaraf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor. Mae'r cynllun yma wedi taflu goleuni ar ein hymrwymiad ni i addysg ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol." 

"Mae'r buddsoddiad yma, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn ysgol newydd y Pant wedi newid yr adeiladau adfeiliedig a chabanau cludadwy yn gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. 

"Rydyn ni'n falch iawn o'r cynllun yma a bydd nifer fawr o bobl ifainc yn ardal Pont-y-clun yn elwa o'r cyfleusterau yma nawr ac yn y dyfodol. 

"Ysgol Gyfun y Pant yw'r ysgol ddiweddaraf i dderbyn buddsoddiad ac mae cynnydd cadarnhaol yn parhau i gael ei wneud yn rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Y Porth, Treorci, Tonypandy, Glynrhedynog, Tonyrefail a Chwmaman. Mae cais am gyllid pellach wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i wella ysgolion ar draws y Sir.

 

Wedi ei bostio ar 22/09/17