Skip to main content

Mae Hamdden am Oes yn paratoi i ailagor rhai gwasanaethau – gan barhau i ddiogelu'r gymuned

leisure For Life pic

Yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyfyngiadau'r Coronafeirws, bydd modd i drigolion ddefnyddio campfeydd a phyllau nofio Hamdden am Oes yn Rhondda Cynon Taf o ddydd Llun, 3 Mai.

Bydd hyn yn cynnwys y cyfleuster newydd sbon yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd, a fydd yn cynnig amgylchedd ffitrwydd eithriadol i gwsmeriaid.

Serch hynny, bydd Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda a Chanolfan Hamdden Llantrisant yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer rhoi brechiadau i'r gymuned ac oherwydd hynny, byddan nhw'n cynnig rhai cyfleusterau a dosbarthiadau yn unig.  Bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen a'r trefniadau ar gyfer y canolfannau yma'n cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos yma trwy'r Ap Hamdden am Oes a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda a Chanolfan Hamdden Llantrisant. 

Bydd Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen hefyd yn ailagor ddydd Iau, 13 Mai, yn dilyn ei defnyddio yn ganolfan cyfrif pleidleisiau ar gyfer etholaeth Pontypridd yn etholiadau'r Senedd sydd ar ddod.

O 26 Ebrill, caiff cwsmeriaid Hamdden am Oes gymryd rhan mewn rhaglen lawn o dros 70 o ddosbarthiadau ffitrwydd awyr agored ledled y Fwrdeistref Sirol a bydd dosbarthiadau dan do yn dechrau ddydd Llun 17 Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Rydyn ni'n gwybod bod llawer o'n trigolion ac aelodau Hamdden am Oes yn awyddus i fynd yn ôl i'r gampfa a'r pwll ac rydyn ni am roi gwybod iddyn nhw ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i hwyluso hynny mewn ffordd sy’n ddiogel ac sy'n cydymffurfio.

“Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, bydd dosbarthiadau awyr agored mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol yn cychwyn ar 26 Ebrill ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn newyddion da i lawer – rwy’n gwybod bod y staff yn edrych ymlaen at weld eu cwsmeriaid eto.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio y tu ôl i'r llenni tuag at 3 Mai pan fydd ein campfeydd a'n pyllau nofio yn ailagor. Yna, o 17 Mai, bydd dosbarthiadau dan do yn cael eu cynnal unwaith eto. Bydd modd cadw lle ar gyfer y gweithgareddau i gyd trwy ffonio'r canolfannau hamdden, ar-lein neu drwy ddefnyddio'r Ap Hamdden am Oes.

“Bydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol mewn grym ac oherwydd hynny, dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn cael ymweld â'r canolfannau ar y tro. Bydd yr angen i ni lanhau'n drylwyr rhwng y sesiynau hefyd yn effeithio ar sawl person fydd yn cael cymryd rhan. Serch hynny, rydyn ni'n gobeithio agor canolfannau yn gynharach yn y dydd a'u cau yn hwyrach lle bo modd, er mwyn cynyddu nifer y sesiynau.

“Mae Canolfan Hamdden Llantrisant a Chanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn lleoliadau hanfodol wrth i ni frwydro yn erbyn Covid-19, gyda miloedd o bobl bob wythnos yn cael eu brechu ar y safleoedd. O'r herwydd, dim ond am gyfnod cyfyngedig bob wythnos y bydd modd iddyn nhw agor fel canolfannau hamdden tra bydd y rhaglen hanfodol yma'n parhau, er ein bod ni'n gobeithio cynyddu'r cynnig yma dros yr wythnosau nesaf.

“Wrth i’r frwydr yn erbyn COVID-19 barhau, a’r Cyngor yn parhau i wneud ei ran, rydyn ni'n annog aelodau sy’n defnyddio’r cyfleusterau yma yn rheolaidd i ddefnyddio lleoliadau amgen lle bo modd a rhoi cynnig ar ein hystod wych o ddosbarthiadau ffitrwydd awyr agored.

“Dyma gyfle gwych yn y fan yma i ni dalu teyrnged i’r staff Hamdden am Oes. A hwythau'n methu ag ymgymryd â'u dyletswyddau arferol yn y canolfannau hamdden, maen nhw wedi cael eu hadleoli a'u hailhyfforddi er mwyn helpu i ddosbarthu parseli bwyd ac ymgymryd â dyletswyddau eraill, er enghraifft, rhoi profion a brechlynnau COVID-19."

Ar ôl iddyn nhw gau yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, cafodd canolfannau Hamdden am Oes eu defnyddio fel banciau bwyd, canolfannau cynnal profion Covid-19 ac, yn fwy diweddar, fel Canolfannau Brechu Torfol Cymunedol (yn achos Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda a Chanolfan Hamdden Llantrisant).

Cafodd ugeiniau o staff Hamdden am Oes eu hadleoli a'u hailhyfforddi fel bod modd iddyn nhw roi cymorth yn y frwydr yn erbyn y pandemig, gan ddosbarthu bwyd a meddyginiaeth i'r rhai a oedd yn cysgodi, rhoi Profion Llif Unffordd Covid-19 a chynorthwyo gyda'r ymdrech brechu torfol.

Mae Hamdden am Oes yn parhau i weithio, cyn belled ag y bo modd, i gynnig gweithgareddau gan ddilyn y canllawiau a'r amserlenni wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru. Mae modd dod o hyd i'r holl newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar ei gyfrifon Facebook, Twitter neu Instagram. Mae modd i chi hefyd lawrlwytho'r Ap Hamdden am Oes am ddim.

Gwybodaeth allweddol:

  • Lawrlwythwch yr Ap Hamdden am Oes am ddim i weld yr amserlenni ac i gadw lle mewn dosbarth, yn y pwll nofio neu yn y gampfa, hyd at saith diwrnod ymlaen llaw.
  • Mae modd i chi gadw lle hefyd trwy ffonio 01443 562202.
  • Oherwydd y cyfnod clo sydyn pan gafodd aelodaeth ei rhewi, bydd gan bob aelod Hamdden am Oes fynediad am ddim drwy gydol mis Mai.
  • Caiff y rhai sy'n dymuno parhau i rewi eu haelodaeth wneud hynny trwy e-bostio AelodaethHamdden@rctcbc.gov.uk
  • Bydd mesurau diogelwch, hylendid a chadw pellter cymdeithasol caeth ar waith ar y safleoedd felly cadwch at y canllawiau.
Wedi ei bostio ar 22/04/2021