Skip to main content

Rhybudd Tywydd: Storm Barra

yellow sign

Dyma roi gwybod i breswylwyr y bydd Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 9am ddydd Mawrth (7 Rhagfyr) hyd at hanner nos oherwydd y risg y bydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Rondda Cynon Taf.

Mae disgwyl i Storm Barra achosi gwyntoedd cryfion, a fydd yn effeithio ar lawer o'r DU, gan arwain at amodau gyrru anodd ac aflonyddwch o ran teithio posibl mewn mannau. Cofiwch neilltuo amser ychwanegol ar gyfer eich teithiau tra bydd y rhybudd tywydd ar waith a gyrru yn unol â'r amodau.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn argymell rhai pethau syml y mae modd eu gwneud ymlaen llaw i sicrhau bod eich cartref neu fusnes yn barod am unrhyw dywydd garw. Er enghraifft, dylech sicrhau bod yr holl ddodrefn gardd ac offer chwarae, fel trampolinau a theganau, wedi’u cadw yn ddiogel.

Sut I Gael Eich Cartref a'ch Eiddo Yn Barod at y Gaeaf

 Os ydych chi'n profi unrhyw broblemau tra bodl Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd ar waith, ffoniwch ein Rhif ar gyfer Argyfwng. 01443 425001 (9am i 5pm), neu ein rhif ar gyfer Argyfwng Tu Allan i Oriau Arferol, 01443 425011 (5pm i 9am).

Wedi ei bostio ar 07/12/21