Skip to main content

Cyllid wedi'i gadarnhau a chontractwr wedi'i benodi ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth

Porth Transport Hub artist's impression - funding has been secured and a contractor appointed

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau cyllid allanol o £3.5miliwn tuag at greu'r Hwb Trafnidiaeth Porth newydd a modern - bydd gwaith adeiladu'r prosiect yn dechrau'n fuan yn dilyn penodi contractwr.

Cyhoeddwyd y cyllid newydd gan Lywodraeth y DU ar 27 Hydref yn rhan o'r Gronfa Codi'r Gwastad, yn dilyn cais ariannu llwyddiannus gan y Cyngor. Bydd yr Hwb Trafnidiaeth yn creu cyfnewidfa bws a rheilffordd integredig yn y Porth wedi'i lleoli yn yr orsaf drenau sydd eisoes yno. Bydd yr hwb modern a deniadol yma yng nghanol y dref ac yn darparu trafnidiaeth ddi-dor ar fysiau ac ar drenau.

Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys mannau gwefru ceir electronig, safle tacsis, mannau cadw beiciau a sawl diweddariad ar draws y rhwydwaith Teithio Llesol lleol.

Mae cynnydd arwyddocaol wedi digwydd tuag at greu'r Hwb Trafnidiaeth fyth ers i'r Cabinet gymeradwyo'r cynlluniau yn 2019 yn dilyn ymgynghoriad dwys. Cymeradwywyd y prosiect gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ym Mawrth 2021 ac mae 3 adeilad (Canolfan Oriau Dydd Alec Jones, Banc Barclays a Meddygfa Fferm Porth) eisoes wedi'u dymchwel er mwyn paratoi'r safle.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi penodi Econ Construction Ltd yn gontractwr er mwyn adeiladu'r cyfleuster un llawr. Bydd symudiad y cyflenwadau a'r gweithlu yn dechrau ym mis Tachwedd 2021. Mae'r gwaith, ar hyn o bryd, wedi'i drefnu i ddechrau ar y safle erbyn gwanwyn 2022, a'r cyfnod adeiladu i bara oddeutu blwyddyn.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae'n newyddion gwych bod y Cyngor wedi diogelu £3.5miliwn tuag at Hwb Trafnidiaeth Porth, a bod contractwr bellach wedi'i benodi er mwyn gwneud y gwaith.

"Bydd yr Hwb Trafnidiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr i effeithlonrwydd trafnidiaeth gyhoeddus yn y Porth, sy'n ddrws i'r Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr. Wedi 2024 bydd trenau cyflym amledd-uchel yn rhedeg o'r hwb bedair gwaith yr awr trwy Metro De Cymru, ac yn darparu profiad trafnidiaeth cydgysylltiedig ar fysiau a rheilffordd.

"Mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol megis Llywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth y DU, Trafnidiaeth Cymru a Stagecoach. Bydd y perthnasau yma'n sicrhau effaith gadarnhaol y datblygiad ar drafnidiaeth gyhoeddus leol trwy roi mynediad i drigolion i wasanaethau, cyflogaeth a swyddogaethau tai.

"Mae Hwb Trafnidiaeth Porth yn parhau'n brosiect canolog a rhan integrol o'r Strategaeth Adfywio Porth ehangach, a gytunwyd arno gan Aelodau'r Cabinet yn Ionawr 2019. Daw'r strategaeth â nifer o brosiectau ynghyd er budd i'r dref a'r ardaloedd o'i chwmpas - o ddefnyddio Porth Plaza yn Hwb Cymunedol, datblygu'r gwasanaeth Parcio a Theithio, diweddaru tir y cyhoedd, gwella adeiladau gyda'r grant Cynnal a Chadw Canol y Dref a'r mynediad at Wi-Fi am ddim i'r cyhoedd a gyhoeddwyd llynedd.

"Mae'r Hwb Trafnidiaeth yn parhau'n brosiect craidd i'r adfywio, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf - ac at y gwaith ar y safle flwyddyn nesaf."

Wedi ei bostio ar 02/11/21