Skip to main content

Y camau nesaf ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni ar ôl sicrhau cyllid

The Muni Arts Centre, Pontypridd - funding has been secured for a major refurbishment project

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid o £5.3 miliwn ar gyfer ei gynlluniau cyffrous i adfywio Canolfan Gelf y Miwni gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Cymeradwywyd cynigion i adnewyddu'r Miwni poblogaidd, a sicrhau dyfodol yr adeilad mewn partneriaeth â'r sefydliad elusennol Awen, gan Aelodau'r Cabinet ddiwedd 2019. Nod y cynllun yw sicrhau treftadaeth yr adeilad Rhestredig Gradd II a dathlu ei bensaernïaeth gothig odidog – gan ailsefydlu'r Miwni yn lleoliad lleol unigryw ar gyfer celfyddydau a cherddoriaeth ranbarthol.

Yn dilyn cais llwyddiannus gan y Cyngor, cyhoeddwyd ar 27 Hydref bod £5.3 miliwn wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.

Mae'r Cyngor bellach wrthi'n cwblhau'r gwaith i drosglwyddo'r adeilad drwy brydles 30 blynedd i Awen, gan fod y ddau sefydliad yn gweithio ar y cyd i gyflawni'r prosiect. Trwy weithio ar y cyd bydd y Cyngor ac Awen yn sicrhau bod y Miwni yn cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus fel lleoliad diwylliannol gyda dyfodol masnachol a hyfyw.

Bydd y prosiect yn cyflwyno lleoliad sy'n cynnig cerddoriaeth, sinema achlysuron, theatr, cyfleusterau bar a gofod cymdeithasol newydd a fydd yn cefnogi'r economi hamdden a'r economi gyda'r hwyr. Bydd hefyd yn creu cyfleusterau cymunedol hyblyg i wneud y defnydd gorau o'r gofod.

Bydd y Miwni ar ei newydd wedd yn gwbl hygyrch a chynhwysol, a bydd yn cynnwys toiled Changing Places cofrestredig. Bydd yr adeilad yn addas ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd – bydd yn cael ei gynllunio i gynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau.

Mae'r Cyngor eisoes wedi buddsoddi bron i £400,000 yn y Miwni dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gyflawni gwaith galluogi a pharatoi i'r adeilad. Mae hyn wedi sicrhau y bydd prif gam y prosiect yn gallu cychwyn cyn gynted â phosibl ar ôl trosglwyddo'r brydles.

Yna bydd yr adeilad yn mynd yn syth i'r cam ailddatblygu, er mwyn bodloni'r amserlenni gweithredu sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Codi'r Gwastad.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Dyma adeg cyffrous iawn i'r Miwni. Mae £5.3 miliwn o arian allanol bellach wedi’i gaffael i sicrhau bod cynlluniau’r Cyngor, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yn cael eu gwireddu. Ein gweledigaeth yw adfer y Miwni yn ôl i fod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer y celfyddydau yng nghanol Pontypridd gyda rhagor o swyddogaethau i'r gymuned, a hefyd ei adfer yn ganolbwynt diwylliannol i'r rhanbarth.

"Mae hi wedi bod yn bwysig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a gwrando ar eu barn wrth i'r cynlluniau i ail-ddatblygu'r Miwni fynd yn eu blaen. Cynhaliodd y Cyngor ac Awen ymgynghoriad helaeth rhwng Hydref 2020 ac Ionawr 2021 – gan ofyn i drigolion rannu eu hatgofion o'r Miwni wrth iddyn nhw gyflwyno'r cynigion ar gyfer yr adeilad a rhoi'r cyfle i drigolion ddweud eu dweud mewn arolwg.

“Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos ag Awen i symud y prosiect yn ei flaen cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd y brydles wedi'i throsglwyddo, bydd modd i ni ddechrau ar y gwaith gwella i'r adeilad. Mae gan Awen enw da am weithredu a gwella Adeiladau Rhestredig Gradd II er enghraifft Neuadd y Dref Maesteg a'r Grand Pavillion ym Mhorthcawl. Dyma'r hyn rydyn ni am ei gyflawni ar gyfer y Miwni er mwyn cadw ei bensaernïaeth gothig godidog.

"Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned wrth i ni gyrraedd gwahanol dirnodau yn yr ail-ddatblygiad – yn enwedig ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud i drawsnewid yr adeilad yn y misoedd sydd i ddod."

MaeddaiRichard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Diolch i’r newyddion am y cyllid yma, a gafodd groeso mawr, bydd Pontypridd a’r ardaloedd cyfagos yn elwa o gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adfer ac ailddatblygu’r Miwni. Bydd yn cadarnhau ei le yn un o'r lleoliadau ar gyfer cerddoriaeth ac achlysuron o’r safon uchaf yn Ne Cymru. Bydd yn cefnogi artistiaid proffesiynol a chymunedol ledled y rhanbarth, a bydd yn gyrchfan boblogaidd sy’n ategu treftadaeth ac arlwy cynyddol Pontypridd fel tref.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wireddu'r uchelgais yma dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ac ymgysylltu ymhellach â phobl a grwpiau lleol wrth i'n cynlluniau ddatblygu." 

Wedi ei bostio ar 05/11/21