Skip to main content

Cofio'r rhai a fu farw

Poppies Waterfall for remembrance day

Mae'r Grŵp Cymunedol Rhydfelen wedi creu rhaeadr o flodau pabi, gyda silwét milwyr o'i hamgylch yn cynrychioli'r rhai a fu farw yn y ddwy Ryfel Byd.

Mae'r gweithiau wedi'u creu i nodi Diwrnod y Cadoediad 2021. Maen nhw wedi'u harddangos wrth Ganolfan y Gymuned, Rhydfelen. Gwaith labrwr sydd bellach wedi ymddeol, Michael Mottram yw'r silwét.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Eiriolwr y Lluoedd Arfog ac aelod o Grŵp Cymunedol Rhydfelen: "Rydyn ni wedi creu'r arddangosfa yma er mwyn anrhydeddu ein teulu Lluoedd Arfog presennol a theulu'r gorffennol.

"Dyma deyrnged addas i'r rheiny sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu, gartref a thramor a'r rheiny a fu farw mewn rhyfeloedd.

"Mae'n dyled ni yn Rhydfelen, a ledled Rhondda Cynon Taf i'r bobl sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn enfawr.

"Cofiwn aberthau y bobl hynny a chofio'r rhai na ddychwelodd o ryfel at gariad eu teuluoedd. Dyma ein ffordd o goffáu eu bywydau nhw oll. Fe gofiwn ac ni fyth anghofiwn."

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Mae Clybiau Brecwast Lluoedd Arfog yn cael eu cynnal yn gyson yng Nghanolfan y Gymuned, Rhydfelen, gan roi cyfle i gyn-filwyr o bob oed ddod ynghyd gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor.

Un sy'n mynychu yw Michael Mottram, 65 oed, o Rydfelen a wasanaethodd gyda'r Fyddin Wrth Gefn (Byddin Diriogaethol) yn yr 1970au. Mae Mr Mottram wastad wedi cefnogi'r Lluoedd Arfog, yn enwedig gydag Apêl y Pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Meddai Michael Mottram, mab glöwr o Durham: "Pryd bynnag mae gen i unrhyw newid sbâr rwy'n ei gadw a'i roi i Apêl y Pabi, achos sy'n agos at fy nghalon.

"Felly pan holodd y grŵp a fyddwn i'n ystyried creu silwét milwyr, roedd yn gynnig rhy dda i'w wrthod. Rwy' wedi'u creu o dempled pren haenog, ei drin ar gyfer yr awyr agored a'i baentio'n ddu. Mae fy ngwaith wedi ennyn ymateb gwych.

"Rwy'n hapus iawn bod fy ngwaith yn rhan o arddangosfa Grŵp Cymunedol Rhydfelen, gan gydfynd â'r rhaeadr o flodau'r pabi."

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Mae'r Gwasanaeth i Gyn-filwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol a'u teuluoedd. Mae'r grŵp yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog siarad â swyddogion ymroddgar yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfon e-bost i GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cwrdd yng Nghanolfan y Gymuned, Rhydfelen bob ail ddydd Mercher bob mis, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod i Glwb Brecwast y Lluoedd Arfog. Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges at 'Taff Ely Veterans Group' ar Facebook neu ffonio 0774 748 5619.

Wedi ei bostio ar 11/11/21