Skip to main content

Cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn i Ddiddymu Trais gan Ddynion yn Erbyn Menywod

RCT-white-ribbon

Bydd y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, sef Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn unwaith eto eleni, ddydd Mercher 25 Tachwedd.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn wedi'i nodi ledled y byd a dyma'r fenter fyd-eang fwyaf i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben trwy alw ar ddynion i weithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl ledled y byd yn gweithredu, yn codi eu lleisiau ac yn dweud NA i drais yn erbyn menywod. Gall pob dyn wneud gwahaniaeth trwy feddwl am eu hymddygiad eu hunain a bod yn barod i chwythu'r chwiban ar ymddygiad rhywiaethol ac aflonyddu pan fyddan nhw'n dod ar ei draws.

Eleni, mae hi'n saith mlynedd ers i waith Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben gael ei gydnabod gan ymgyrch y Rhuban Gwyn.  

Mae'r gefnogaeth honno'n parhau hyd heddiw o ganlyniad i ymrwymiad parhaus y Cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Cymorth i Fenywod RhCT a darparwyr tai lleol, sy'n cydweithio i roi cymorth i ddioddefwyr trais yn y cartref.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn sefydliad â statws achrededig y Rhuban Gwyn.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rydyn ni'n falch o fod yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben unwaith eto eleni. Gyda'n gilydd, mae modd i ni wneud gwahaniaeth.

“Rhaid i ni i gyd barhau i wneud safiad a herio achosion o drais yn y cartref, sy'n hollol annerbyniol.

"Mae Ymgyrch Ryngwladol Diwrnod y Rhuban Gwyn yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog dynion ledled y byd i gydnabod yr angen iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb a gweithio tuag at ddyfodol heb drais yn erbyn menywod.

“Rhaid i ni byth gyflawni trais yn erbyn menywod, ei esgusodi na chadw'n dawel amdano, ac felly dyma annog holl drigolion Rhondda Cynon Taf i wisgo'u Rhuban Gwyn gyda balchder i ddangos eu cefnogaeth.

“Mae modd i drais yn y cartref effeithio ar unrhyw un yn ein Bwrdeistref Sirol - ar unrhyw adeg o’u bywyd, waeth beth fo’u hoedran, eu hil, eu crefydd a'u rhywedd. “Mae angen i bob un ohonom ni feddwl am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cefnogaeth i blant sydd wedi'u heffeithio gan drais yn y cartref. Mae'n gweithio gyda'r rheiny sy'n cyflawni trais i fynd i’r afael â’u hymddygiad annerbyniol, ac yn bwysicaf oll, yn gweithio i gadw dioddefwyr yn ddiogel.

Gwnewch Addewid y Rhuban Gwyn

Dyma wahodd trigolion i wisgo Rhuban Gwyn a gwneud Addewid y Rhuban Gwyn i beidio â chyflawni trais yn erbyn menywod, ei esgusodi na chadw'n dawel amdano.

Ymunwch â ni wrth i ni gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn eleni ddydd Mercher, 25 Tachwedd.

Wedi ei bostio ar 23/11/2021