Skip to main content

Ymestyn cyfnod yr ymgynghoriad Teithio Llesol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb

The Active Travel consultation has been extended, while a number of local events have been arranged

Mae cyfnod yr ymgynghoriad Teithio Llesol wedi'i ymestyn tan 22 Tachwedd. Mae modd i drigolion drefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda Swyddogion i drafod cynlluniau'r Cyngor o ran darpariaeth cerdded a beicio leol yn y dyfodol.

Cafodd yr ymarfer ymgynghori presennol ei lansio ym mis Awst, gan roi cyfle i drigolion weld map diweddaraf y Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae'r map yn dangos y llwybrau cerdded a beicio presennol ac yn amlinellu'r llwybrau newydd y mae'r Cyngor yn ymrwymo i'w creu mewn cymunedau yn y dyfodol. Mae modd i drigolion wneud sylwadau am bob un o'r 22 o rannau o'r map.

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd yr ymgynghoriad yn para pythefnos ychwanegol, ac yn parhau i fod ar gael tan ddydd Llun 22 Tachwedd.

Yn ogystal â hyn, mae modd i drigolion drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb gyda Swyddog y Cyngor i drafod unrhyw agwedd ar yr ymgynghoriad, neu i gyflwyno adborth. Mae'r cyfleoedd yma ar gael ar y dyddiadau canlynol yn y lleoliadau isod:

  • Llyfrgell Abercynon – Dydd Mawrth 5 Hydref (10am-12pm)
  • Llyfrgell Aberdâr (ystafell iBobUn) – Dydd Mawrth 5 Hydref (1pm-3pm)
  • Llyfrgell Hirwaun – Dydd Mawrth 5 Hydref (3.30pm-5.30pm)
  • Llyfrgell Porth  – Dydd Iau 7 Hydref (10am-12pm)
  • Llyfrgell Glynrhedynog – Dydd Iau 7 Hydref (1pm–3pm)
  • Canolfan Hamdden Llantrisant – Dydd Mawrth 12 Hydref (10am-12pm)
  • Llyfrgell Pontypridd – Dydd Mawrth 12 Hydref (1pm-3pm)
  • Llyfrgell Rhydfelen – Dydd Mawrth 12 Hydref (3.30pm-5.30pm)
  • Neuadd Les, Llanharan – Dydd Mercher 13 Hydref (12pm-2pm)

Rhaid i drigolion drefnu apwyntiad ymlaen llaw drwy ffonio Hayley ar 01443 494737. Bydd pob awyntiad yn para 15 munud neu lai er mwyn i Swyddogion weld cynifer o bobl â phosibl ym mhob lleoliad. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith yn yr achlysuron yma, a bydd pob Swyddog yn gwisgo gorchudd wyneb.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Yn rhan o'r ymgynghoriad Teithio Llesol sydd wrthi'n mynd rhagddo, bydd swyddogion yn ymweld â llyfrgelloedd lleol i gynnal cyfres o achlysuron i drafod llwybrau cerdded a beicio presennol a llwybrau yn y dyfodol gyda thrigolion. Dyma’r cyfle olaf i drigolion gael gwybod rhagor ac awgrymu darpariaeth Teithio Llesol leol cyn i ni gyflwyno ein cynlluniau'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

“Mae'r ymgynghoriad yn parhau i ofyn cwestiynau allweddol – a ydyn ni wedi nodi'r llwybrau cywir i'w gwella yn y dyfodol, a oes unrhyw lwybrau dydyn ni ddim wedi'u nodi, ac a yw'r llwybrau presennol yn bodloni safonau cytunedig.

“Mae nifer o fuddion sy'n gysylltiedig â Theithio Llesol, megis iechyd a lles a gwella'r amgylchedd. Rydyn ni'n parhau i ymrwymo i annog rhagor o bobl i gerdded a beicio yn rhan o'u bywydau beunyddol.

“Dyma'ch atgoffa bod rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw i gwrdd â Swyddogion. Bydd hyn yn ein helpu i geisio gweld pawb sydd wedi dangos diddordeb, ac i osgoi cael gormod o bobl yn ein llyfrgelloedd. Mae'n gadarnhaol iawn bod modd i ni gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb eto yn rhan o'n hachlysuron ymgynghori. Cynhelir yr achlysuron yma ochr yn ochr â'r broses ar-lein sydd wedi cael ei defnyddio trwy gydol y pandemig.

“Yn ogystal â'r achlysuron, mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn para pythefnos ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi amser ychwanegol i drigolion lleol rannu eu barn, a bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo'r ymgynghoriad hyd at y dyddiad dod i ben newydd, sef 22 Tachwedd.”

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar dudalen benodol gwefan y Cyngor sydd ar gael yma.

Wedi ei bostio ar 01/10/2021