Skip to main content

Cyllid ychwanegol o £1.5 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw ffyrdd wedi'i gytuno gan y Cabinet

The Council has agreed additional £1.5m funding for local resurfacing schemes

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar gyllid ychwanegol o £1.5 miliwn i gynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd – gan gynnwys 48 o gynlluniau gosod wyneb newydd – ar ben yr arian sydd eisoes wedi'i glustnodi yn y Rhaglen Cyfalaf Priffyrdd.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 4 Hydref, trafododd yr aelodau adroddiad a oedd yn manylu ar y cynlluniau newydd arfaethedig, yn rhan o gyllid 'unwaith ac am byth' ychwanegol sy'n cael ei ddwyn ymlaen ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor. Yn wreiddiol, cytunwyd ar y cyllid ychwanegol yma, gwerth cyfanswm o £6.5 miliwn, gan y Cabinet ar 21 Medi – a chytunwyd arno wedi hynny yn ystod cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 29 Medi.

Roedd yr adroddiad ar 4 Hydref yn darparu dadansoddiad o'r cyllid gwerth £1.5 miliwn ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd – gan gynnwys £1.304 miliwn ar gyfer 44 o gynlluniau gosod wyneb newydd, £100,000 ar gyfer gwaith draenio ac atgyweiriadau brys, a £96,000 ar gyfer adnewyddu pedair troedffordd.

Mae rhestr o leoliadau ar gyfer y 48 cynllun ychwanegol wedi'i chynnwys yma.

Bydd y dyraniad yma'n buddsoddi ymhellach mewn ffyrdd lleol, gan gyfrannu at gyllid 'carlam' y Cyngor dros ddeng mlynedd. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen cynnal a chadw 4.6% o'r ffyrdd dosbarth A yn Rhondda Cynon Taf yn 2020/21, i lawr o 16.2% yn 2010/11. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws y rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys 6% o'r ffyrdd dosbarth B (i lawr o 15.2% ddeng mlynedd yn ôl) a 4.7% o'r holl ffyrdd (i lawr o 15.7%).

Cytunodd y Cabinet i argymhellion yr adroddiad ddydd Llun, gan gymeradwyo'r 48 cynllun ychwanegol i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf tair blynedd barhaus y Cyngor. Gan ymdrin ag un achos ar y tro, bydd y rhain naill ai'n cael eu cwblhau yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2021/22) neu ar ôl hynny er mwyn cael y budd gorau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r cyllid ychwanegol yma o £6.5m yn cynrychioli'r buddsoddiad 'unwaith ac am byth' diweddaraf y mae'r Cyngor wedi'i gyflwyno ar gyfer blaenoriaethau allweddol, ar ben ei Raglen Gyfalaf flynyddol. Ar ôl cael ei gytuno gan y Cyngor Llawn yr wythnos diwethaf, bydd yn ychwanegu at y £123 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol sydd wedi'i wneud ers 2015.

“Mae’r cyllid gwerth £1.5 miliwn ar gyfer Priffyrdd a Ffyrdd o fewn y dyraniad newydd yma ar ben y £5.3 miliwn a glustnodwyd ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd, a £1.3 miliwn ar gyfer adnewyddu troedffyrdd, a ddyrannwyd eisoes o fewn Rhaglen Cyfalaf Priffyrdd 2021/22. Gwnaed cynnydd rhagorol tuag at gyflawni'r rhaglen yma o gynlluniau, yn enwedig yn ystod y tywydd braf dros yr haf.

“Mae ein cyllid carlam yn y rhwydwaith ffyrdd dros y 10 mlynedd diwethaf yn parhau i dalu ar ei ganfed. Mae adroddiad dydd Llun yn nodi bod canran y ffyrdd lleol sydd angen eu cynnal a'u cadw wedi gostwng yn sylweddol – gan fod Rhondda Cynon Taf yn cymharu'n ffafriol ag Awdurdodau Lleol eraill yn y maes yma. Yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau'r Cabinet, bydd y 48 cynllun gosod wyneb newydd nawr yn cael eu hychwanegu at ein Rhaglen Gyfalaf tair blynedd, er budd ein cymunedau."

Wedi ei bostio ar 07/10/2021