Skip to main content

Dweud eich dweud ar fuddsoddiad arfaethedig yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun

Pontyclun Primary School artist impression - the community can now have their say on the plans

Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar gynigion i ddarparu adeilad newydd sbon ar safle presennol Ysgol Gynradd Pont-y-clun, a hynny trwy ddefnyddio cyllid posibl gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Ym mis Medi 2020, cytunodd Aelodau'r Cabinet i gyflwyno achos busnes cychwynnol i sicrhau cyllid o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) – y llwybr cyllid refeniw ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r broses gwneud cais am gyllid yn parhau, a bydd y cyllid yn cael ei gadarnhau yn y gwanwyn, 2022.

Pe bai'r cyllid yn cael ei gadarnhau, byddai'n talu am gyfleusterau newydd i gymryd lle'r adeiladau presennol yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Mae'r tair ysgol o fewn ardaloedd sydd wedi gweld llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu mewn cyfnod byr ac mae angen buddsoddiad ar bob un er mwyn eu gwneud yn gwbl hygyrch ac i gyrraedd safon yr 21ain Ganrif.

Yn achos Ysgol Gynradd Pont-y-clun, y cynnig yw darparu adeilad dau lawr newydd i gymryd lle'r adeilad presennol, sy'n cynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro. Mae'r rhan fwyaf o'r ystafelloedd dosbarth yma mewn cyflwr gwael. Byddai'r adeilad newydd, sydd â lle i 480 o ddisgyblion a 60 o leoedd meithrin, yn agor yn 2023. Mae'r ysgol hefyd wedi'i thargedu i weithredu'n adeilad carbon sero-net.

Byddai'r datblygiad yn darparu amgylchedd dysgu bywiog ar gyfer disgyblion, yn ogystal â nifer o gyfleusterau y mae modd i'r gymuned eu defnyddio. Byddai'n creu cyfleusterau allanol newydd megis maes parcio, Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt a mannau gwyrdd mawr – o'u cymharu â thirwedd galed y safle presennol.

Mae'r Cyngor a'i bartner, WEPCo Ltd, bellach yn ymgynghori â thrigolion ar y cynlluniau yn rhan o broses fydd yn parhau i fod ar gael tan 24 Tachwedd. Dyma Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio, fydd yn helpu i lywio'r cynlluniau ymhellach a llywio dogfen gynllunio derfynol y Cyngor i'w hystyried yn ffurfiol.

Mae gwefan benodol wedi cael ei chreu i gynnal yr ymgynghoriad. Mae ar gael yma

Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion ar y wefan, ynghyd â chyfle i drigolion weld dogfennau cynllunio a chynlluniau lleoliad y safle drafft ar gyfer yr adeilad newydd. Mae modd anfon sylwadau drwy e-bost (YsgolGynraddPont-y-clun@arup.com) neu drwy lythyr, gan ddefnyddio'r cyfeiriad ar hafan y wefan ymgynghori.

Bydd cynlluniau'r adeilad newydd i'w gweld yn Llyfrgell Gymuned Pont-y-clun (Heol-y-Felin, CF72 9BE) yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.  Yn ogystal â hynny, bydd achlysur galw heibio cyhoeddus yn cael ei drefnu er mwyn i drigolion siarad â Swyddogion, gweld y cynlluniau a dweud eu dweud. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn fuan.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae'r ymgynghoriad yma'n rhoi cyfle i drigolion gael gwybod rhagor a rhoi adborth am y cynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun. Y cynlluniau yw darparu adeilad ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, a nifer o gyfleusterau allanol a chymunedol. Mae'r Cyngor yn parhau â'r broses gyllido, allai sicrhau buddsoddiad Llywodraeth Cymru i ddarparu amgylchedd dysgu modern newydd y mae staff a disgyblion haeddu manteisio arno.

“Dyma adeg gyffrous iawn o ran ein cynlluniau i fuddsoddi ymhellach mewn cyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif ledled Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd nesaf. Dechreuwyd gwaith yn ystod yr haf eleni i gyflawni gwelliannau gwerth £12.1 miliwn a £4.5 miliwn yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac YGG Aberdâr, tra ein bod yn parhau â buddsoddiad gwerth dros £55 miliwn yn ardal Pontypridd erbyn 2024.

“Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cynigion cychwynnol yn ddiweddar i ddefnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau yn Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau, ynghyd ag ysgol arbennig newydd. Ochr yn ochr ag Ysgol Gynradd Pont-y-clun, bydd dau brosiect MBC ar wahân hefyd yn buddsoddi yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi erbyn 2023.

“Mae nifer o ffyrdd i'r gymuned ddweud ei dweud ar gynlluniau Ysgol Gynradd Pont-y-clun dros yr ychydig wythnosau nesaf. Mae modd i drigolion weld gwybodaeth ar-lein ac anfon eu sylwadau drwy e-bost neu drwy lythyr – tra bydd y cynlluniau i'w gweld yn Llyfrgell Gymuned Pont-y-clun ac mewn achlysur cyhoeddus ar wahân. Dyma annog trigolion i gymryd rhan i helpu i lywio cynlluniau terfynol y prosiect cyffrous yma.”

Wedi ei bostio ar 28/10/21