Skip to main content

Datblygu cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif mawr newydd

Hirwaun Primary School benefitted from 21st Century Schools funding during 2020

Mae'r Cabinet wedi cefnogi cynlluniau cychwynnol i ddefnyddio cyllid newydd, gwerth £85 miliwn, Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd prosiectau yn Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau, yn ogystal ag ysgol arbennig newydd, yn cael eu datblygu ymhellach.

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Llun 4 Hydref, trafododd Aelodau'r Cabinet restr o brosiectau buddsoddi arfaethedig, gan ddefnyddio cyllid ychwanegol sydd ar gael o ganlyniad i Raglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig Ysgolion yr 21ain Ganrif. Ar ôl i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo mewn egwyddor yn ddiweddar, mae dyraniad y Cyngor wedi cynyddu'n sylweddol o £167 miliwn i £252 miliwn, sef £85 miliwn ychwanegol.

Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni ymrwymiadau allweddol trwy Fand B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Bydd hyn yn cynnwys gwella ysgolion arbennig a darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyflawni rhagor o gyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, a chynyddu cyfleusterau i'r gymuned yn rhan o'r datblygiadau yma. Dyma'r cynlluniau posibl a gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet eu trafod ddydd Llun: 

  • Ysgol Llanhari – gwaith moderneiddio ac ailadeiladu'r rhan fwyaf o adeiladau presennol yr ysgol.  
  • Ysgol Cwm Rhondda – creu ysgol pob oed 3-19 oed newydd trwy ailfodelu a moderneiddio'r safle presennol, neu adeiladu ysgol newydd sbon ar safle arall.
  • Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer Glyn-coch – ailadeiladu'r ddwy ysgol bresennol, yn amodol ar ymgynghoriad a phrosesau gwneud penderfyniadau statudol mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion.
  • Ysgol arbennig newydd – ymateb i'r galw cynyddol am ddarpariaeth addysg arbennig y Cyngor.
  • Ysgol Gynradd Pen-rhys – ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Ysgol Gynradd Maes-y-bryn (Llanilltud Faerdref) – ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
  • Ysgol Gynradd Tonysguboriau – ysgol newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cytunodd y Cabinet ag argymhellion adroddiad i gymeradwyo datblygiad y rhaglen ddiwygiedig uchod yn ffurfiol. Cytunodd Aelodau i dderbyn y newyddion diweddaraf am bob un o'r prosiectau newydd yma wrth iddyn nhw symud trwy brosesau cymeradwyo cyllid ffurfiol Llywodraeth Cymru.

Wrth i bob un o'r prosiectau yma symud ymlaen, bydd unrhyw ymgynghoriad statudol sydd ei angen yn cael ei gynnal yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, tra bydd cyfraniad ariannol y Cyngor yn cael ei drafod gan y Cyngor Llawn.

Trafododd y Cabinet adroddiad ar wahân yn ystod y cyfarfod ddydd Llun, a roddodd ragor o fanylion am y cynnig ar gyfer ysgol arbennig newydd. Mae'n dilyn cytundeb yr Aelodau ym mis Chwefror 2021 i gynnal adolygiad manwl ar y pwysau sydd ar ysgolion arbennig lleol. Y bwriad oedd dwyn ymlaen â chynigion buddsoddi i wella cyfleusterau presennol a bodloni galw cynyddol.

Cadarnhaodd yr adroddiad diweddaraf fod nifer y disgyblion wedi cynyddu i 600 ym mis Medi 2021 (o 577 y llynedd a 483 yn 2013/14). Mae'n anochel bydd nifer y disgyblion yn parhau i gynyddu. Ychwanegodd yr adroddiad ei bod hi'n debygol y bydd cynnydd o ran cymhlethdod anghenion disgyblion yn y dyfodol.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad mai'r unig opsiwn ymarferol i fodloni'r pwysau yw adeiladu ysgol arbennig newydd – gan gynyddu nifer yr ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf o 4 i 5. Byddai hi'n ysgol arbenigol iawn sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif gyda mynediad at gyfleusterau, offer ac adnoddau therapiwtig. 

Cytunodd Aelodau'r Cabinet ag argymhellion yr adroddiad, felly byddan nhw'n cael y newyddion diweddaraf wrth i'r cynnig ddatblygu. Mae gwaith gwerthuso sawl safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd yn mynd rhagddo.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Ddydd Llun, cafodd Aelodau'r Cabinet eu cyfle cyntaf i drafod y cynigion newydd yma, a gafodd eu dwyn ymlaen o ganlyniad i ehangu'r rhaglen amlinellol strategol i gynnwys cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, sef £85 miliwn. Er eu bod nhw yn ystod cam datblygu cynnar iawn, mae'r prosiectau'n cynrychioli buddsoddiadau pellach cyffrous mewn cyfleusterau addysg yr 21ain Ganrif er budd rhagor o'n staff a disgyblion.

“Mae'r cynigion £85 miliwn ar ben ein rhaglen bresennol o dan Fand B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Mae'r rhain yn cynnwys yr adeilad newydd, gwerth £10.2 miliwn, ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun y mae disgyblion wedi bod yn ei fwynhau ers mis Tachwedd 2020. Mae hefyd yn cynnwys y prosiectau gwerth £12.1 miliwn a £4.5 miliwn ar gyfer Ysgol Gyfun Rhydywaun ac YGG Aberdâr lle dechreuodd gwaith ar y safle yn yr haf eleni.

“Yn y cyfamser, mae ymgynghoriad cynllunio wrthi'n cael ei gynnal ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen, ac mae gwaith dylunio bron â dod i ben ar gyfer adeiladau newydd yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Mae'r rhain yn cael eu hariannu drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Mae'r Cyngor yn symud ymlaen ag ysgolion pob oed newydd ym Mhontypridd a'r Ddraenen Wen, yn ogystal â bloc addysgu newydd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog.

“Rydw i'n falch bod y Cabinet bellach wedi cytuno i'r prosiectau newydd arfaethedig gael eu datblygu'n ymhellach, a bydd y newyddion diweddaraf am bob un yn cael eu rhannu maes o law. Trwy barhau â'n hanes ardderchog o gyflawni cyfleusterau addysg modern sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, byddai'r cynlluniau newydd o fudd i ysgolion presennol yn Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau.

“Byddai cynlluniau penodol ar gyfer Ysgol Llanhari ac Ysgol Cwm Rhondda yn golygu y byddai modd i ragor o ddisgyblion gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny wrth i ni barhau i wella ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel sydd wedi'i amlinellu yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Byddai pob prosiect arfaethedig hefyd yn gweithredu'n adeiladau carbon sero-net, gan helpu ein targedau ac ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd.

“Trafododd y Cabinet ail adroddiad, a amlinellodd adolygiad diweddar ar y pwysau ar gapasiti pedair ysgol arbennig bresennol. Tynnodd sylw at y cynnydd parhaus yn nifer y disgyblion, y cynnydd arfaethedig o ran cymhlethdod anghenion disgyblion yn y dyfodol, a chyfyngiadau safleoedd presennol. Cytunodd Aelodau â chasgliad yr adroddiad mai'r opsiwn gorau i gynnig datrysiad yw ysgol arbennig newydd. Bydd hon yn helpu'r rheiny â'r Anghenion Dysgu Ychwanegol mwyaf difrifol i fanteisio ar y ddarpariaeth orau bosibl.”

Ers cael cymeradwyaeth yn 2017, symudwyd ymlaen â nifer o brosiectau buddsoddi, gan gynnwys:

  • Gwaith gweddnewid Ysgol Gynradd Hirwaun, sydd wedi'i gwblhau,
  • Gwelliannau'r 21ain Ganrif i YGG Aberdâr ac YG Rhydywaun, sy'n mynd rhagddyn nhw'n dda ar y safleoedd,
  • Cychwyn ymgynghoriad cynllunio ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen,
  • Gwaith dylunio manwl bron wedi'i gwblhau ar gyfer tair ysgol gynradd newydd, sef Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, wedi'u hariannu trwy'r MIM,
  • Creu dwy ysgol pob oed ym Mhontypridd a'r Ddraenen Wen,
  • Bloc addysgu newydd i'r chweched dosbarth a gwelliannau sylweddol i Ysgol Gyfun Bryncelynnog, sydd yn y cam dylunio. Maen nhw'n rhan o waith trawsnewid addysg ehangach yn ardal Pontypridd gyda buddsoddiad gwerth dros £55 miliwn.
Wedi ei bostio ar 07/10/21