Skip to main content

Cynlluniau ar gyfer Cofeb Rhyfel Penrhiwceiber

Penrhiwceiber War Memorial

Mae cynlluniau ar y gweill i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber i'w hen ogoniant yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i'w gymuned Lluoedd Arfog.

Mae Cofeb Rhyfel Penrhiwceiber yn ganolbwynt i'r gymuned ers blynyddoedd lawer. Mae'r gofeb, sydd wedi'i nodi'n adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw, hefyd yn gweithredu fel cloc y pentref. Er hyn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyflwr y gofeb wedi dirywio a dydy'r cloc ddim yn gweithio mwyach.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn trafod prosiect adfer sylweddol, bydd yn cynnig trwsio'r cloc yn gweithio unwaith eto, yn ogystal â gwella'r gofeb a'r ardal o'i hamgylch.

Yn ddiweddar bu Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber, mewn cyfarfod â Chynghorwyr lleol a Swyddogion y Cyngor i drafod y cynlluniau.

Mae'r gofgolofn, sydd wedi'i hadeiladu o garreg o hen Gamlas Aberdâr, yn coffáu trigolion Penrhiwceiber a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18), yr Ail Ryfel Byd (1939-45) a Rhyfel Corea (1950-53).

Mae'r twr castellog, gydag wynebau cloc crwn wedi'u gosod ar y strwythur, hefyd yn cynnwys paneli pres wedi'u harysgrifio, i goffáu'r meirw o bentref Penrhiwceiber.

Mae'r prosiect i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber yn cael ei gydlynu gan aelodau'r ward, y Cyngor a'i Wasanaeth i Gyn-filwyr.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae ein dyled fawr i’n cyn-filwyr, ddoe a heddiw, yn fawr. Bu farw cymaint o bobl yn ystod y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill. Trwy adfer y gofeb ryfel ym mhentref Penrhiwceiber rydyn ni'n parhau i gofio amdanyn nhw a dyma'r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud i'w hanrhydeddu.

“Y Cloc yw canolbwynt y gymuned leol ac mae'n bwysig iawn i'n trigolion lleol. Roedd hynny'n amlwg yn fy nghyfarfod diweddar gyda'r Cynghorwyr lleol.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi ei gymuned Lluoedd Arfog, yn gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac mae gyda ni wasanaeth pwrpasol i gyn-filwyr sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth iddyn nhw.

“Rhaid i ni gofio'r hyn aberthodd y bobl yma ar gyfer ein dyfodol.”

Mae cynlluniau i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber yn cynnwys atgyweirio'r cloc a glanhau wynebau'r deialau er mwyn iddyn nhw weithio'n iawn, ynghyd â threfnu bod y paneli pres, y gwaith cerrig a'r bensaernïaeth o'u cwmpas yn cael eu glanhau gan arbenigwyr.

Yn ogystal â glanhau’r lleoliad yn gyffredinol, mae yna hefyd gynlluniau ar waith i osod dodrefn stryd coffaol yn y cyffiniau, fel seddi a biniau sbwriel, ynghyd â gwely blodau coffa wrth droed twr y cloc.

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfonwch e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 04/10/2021