Skip to main content

Panto Aladdin Theatrau RhCT bellach yn Brofiad Sinema AM DDIM

Theatre

Mae Theatrau RhCT yn falch o gyhoeddi bod eu panto traddodiadol i deuluoedd, Aladdin, bellach yn brofiad sinema hudol AM DDIM. Bydd modd gwylio'r panto ar y sgrîn fawr yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, rhwng dydd Gwener 17 Rhagfyr a dydd Iau 23 Rhagfyr.

Yn serennu hoff bersonolwr Cymru, Ceri Dupree fel Widow Twankey, ynghyd â chast cynorthwyol llawn, mae'r pantomeim yma sydd wedi'i recordio ymlaen llaw yn dod â holl ryfeddodau'r panto traddodiadol i'r sgrîn fawr.

Bydd Aladdin, y profiad sinema hudol, hefyd ar gael ar gyfrif YouTube Theatrau RhCT rhwng 24 a 31 Rhagfyr, gan sicrhau bod modd i bawb fwynhau rhyfeddodau'r panto.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rydw i'n falch bod modd i Theatrau RhCT symud ymlaen mewn ffordd bwyllog a gofalus i groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i leoliadau.

“Bydd cynnig cyfle i wylio Aladdin am ddim yn y sinema, yn ogystal â'r cynnig digidol ar-lein am ddim, yn sicrhau bod ein pantomeim hudol i deuluoedd yn cyrraedd cynulleidfa eang, gan gynnwys unrhyw drigolion wedi'u hallgau'n ddigidol.

“Mae hyn hefyd yn ategu ymrwymiad y Cyngor i ailagor ein theatrau'n llawn dros y misoedd nesaf ac annog aelodau ffyddlon a newydd o'r gynulleidfa i ddychwelyd.”

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi llacio cyfyngiadau COVID-19, gyda'r wlad ar Lefel Rhybudd 0, mae Cabinet RhCT wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau i ddarparu cynnig digidol o'r pantomeim poblogaidd i deuluoedd.

Dyma dawelu meddyliau cynulleidfaoedd y bydd nifer o fesurau yn cael eu cyflwyno er mwyn amddiffyn staff, aelodau'r gynulleidfa, perfformwyr a chyfranogwyr gweithgareddau celfyddydau wedi'u trefnu yn y theatrau. Bydd y mesurau rheoli yma'n cael eu hadolygu a'u newid yn rheolaidd i gyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'r Cyngor ac arfer orau'r diwydiant.

Yn ystod y cyfnod pan oedd Theatr y Parc a'r Dâr a Theatr y Colisëwm ar gau, mae'r Cyngor, mewn cydweithrediad â Theatrau RhCT, wedi gwella ei adeiladau i sicrhau bod modd i gynulleidfaoedd ddychwelyd yn ddiogel. Mae gwelliannau'n cynnwys cyflwyno mannau diheintio dwylo, rhaglen lanhau well ac arwyddion ychwanegol i dywys cynulleidfaoedd o gwmpas y lleoliadau.

Mae staff Theatrau RhCT wedi cael hyfforddiant ar fesurau iechyd a diogelwch newydd a byddan nhw wrth law i'ch helpu chi ar y safle. Mae modd adnabod holl staff blaen y tŷ yn hawdd gan y byddan nhw'n gwisgo crysau dynodedig.

Yn rhan o'u hymrwymiad i wneud perfformiadau'n gwbl hygyrch i bob cynulleidfa, bydd fersiwn â disgrifiad clywedol o dan reolau cadw pellter cymdeithasol ddydd Sul 19 Rhagfyr, am 2pm.

Bydd modd gwylio Aladdin yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr rhwng 17 a 23 Rhagfyr. Rhaid trefnu tocynnau ymlaen llaw a byddan nhw ar gael am ddim (uchafswm o 6 fesul pob person) o ddydd Mawrth 9 Tachwedd drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu drwy fynd i https://rct-theatres.co.uk/cy/.

Wedi ei bostio ar 20/10/21