Skip to main content

Ogof Siôn Corn

Santas Toy Mine - Build a bear - shops - Christmas Trees-29

Mae cyfnod mwyaf hudol y flwyddyn ar ddechrau, wrth i ni gyhoeddi bod tocynnau Ogof Siôn Corn yn atyniad Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda


Mae cynorthwywyr a chorachod Siôn Corn wedi gorchfygu heriau blwyddyn anodd arall i greu achlysur Nadoligaidd i bawb ei fwynhau’n ddiogel ac yn unol â chanllawiau cyfredol y Coronafeirws.


Mynnwch eich tocynnau i fwynhau'r profiad hudolus.

Ewch ar y daith trwy Ogof Siôn Corn a mwynhau golygfa hudolus y Nadolig ym mhobman. Dewch i gwrdd â Siôn Corn - gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs - a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â'ch rhestr anrhegion!


Yn ogystal â'r daith, bydd Caffi Bracchi ar agor ac mae'r siop anrhegion yn lle gwych i brynu anrheg neu rywbeth i lenwi'r hosan. Bydd coed Nadolig ar werth gan gwmni Heritage Christmas Trees yn y maes parcio.


Rydyn ni'n falch iawn o gadarnhau y bydd teithiau ysgol yn dychwelyd i Ogof Siôn Corn yn 2021 rhwng 29 Tachwedd ac 17 Rhagfyr. Mae'r teithiau rhwng 11am a 2pm ac mae modd archebu trwy ein ffonio ar 01443 682036.


Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Unwaith eto, mae cynorthwywyr Siôn Corn wedi gorchfygu heriau’r flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru.
“Yn debyg i'r rhan fwyaf o bethau eraill, mae ychydig yn wahanol i brofiad y blynyddoedd blaenorol ond mae'r un mor hudolus ag erioed. Mae Ogof Siôn Corn yn un o achlysuron mwyaf poblogaidd ein calendr ac rydyn ni'n falch iawn o sicrhau ei fod yn dychwelyd i ymwelwyr hen ac ifainc yn 2021.”


Mae gwybodaeth am y daith, y trefniadau, sut i archebu, y gost a llawer yn rhagor yma: www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/RhonddaHeritagePark/Home.aspx

Gwybodaeth bwysig

Bydd y teithiau'n cynnwys uchafswm o 15 o bobl - does dim angen cadw at swigod.
Pris y tocynnau yw £10 y pen.

Mae babanod a'r rhai dan 18 mis oed yn cael dod am ddim, a byddan nhw'n dal i dderbyn anrheg gan Siôn Corn.

Oriau agor:
Mae Ogof Siôn Corn ar agor dydd Sadwrn 27 Tachwedd hyd at Noswyl Nadolig.
O 27 Tachwedd hyd at 18 Rhagfyr:
- Oriau agor yn ystod yr wythnos yw 3pm tan 8pm.
- Oriau agor y penwythnos yw 10am tan 8pm
O 18 Rhagfyr hyd at 23 Rhagfyr
- Ar agor bob dydd rhwng 9am ac 8pm

Noswyl Nadolig:
- Ar agor 9am tan 3.45pm
Teithiau Ysgolion
- Rydyn ni'n falch iawn o gadarnhau y bydd teithiau ysgol yn dychwelyd i Ogof Siôn Corn yn 2021 rhwng 29 Tachwedd ac 17 Rhagfyr. Mae'r teithiau rhwng 11am a 2pm ac mae modd archebu trwy ein ffonio ar 01443 682036.
-

Gwybodaeth bwysig i westeion
- Sicrhewch eich bod yn cyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich taith - mae hyn yn bwysig gan fod dim hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer y rheiny sy'n hwyr.
- Dylech chi ddim ond mynd i mewn i'r ganolfan ymwelwyr 10 munud cyn eich taith - os byddwch chi'n cyrraedd cyn hyn, arhoswch yn eich cerbyd tan 10 munud cyn bod eich taith i fod i gychwyn. Ar yr amser yma, cewch fynd i mewn i'r ganolfan ymwelwyr i gofrestru.
- Wrth gwrs, bydd anrheg sy'n briodol i oedran bob plentyn ar y daith.
- Yn unol â chanllawiau Covid-19, fydd dim modd i chi gerdded o gwmpas nac aros ar y safle cyn neu ar ôl eich taith. Os ydych chi wedi trefnu ymweld â Chaffi Bracchi neu Craft of Hearts hefyd, gofynnir i chi aros yn yr ardaloedd hynny trwy gydol eich cyfnod dynodedig yn unig.
- Bydd cyfle i fachu hunlun Nadoligaidd gyda'r dyn ei hun yn yr Ogof.
- Bydd raid dilyn canllawiau'r Coronafeirws bob amser felly cadwch lygad am arwyddion a hylif diheintio dwylo.
- Rhaid i bob oedolyn wisgo gorchudd wyneb ar y daith oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol.

Wedi ei bostio ar 19/10/21