Skip to main content

Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog

Margaret-Williams

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor ar gael i gynnig help a chymorth i'r sawl sydd eu hangen. Mae hefyd yn helpu i ddod â phobl ynghyd, i wneud ffrindiau newydd a helpu i dyfu cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Margaret Williams, 95 oed, o Rydfelen, yn un o'r cyn-filwyr hynaf sy'n mwynhau cyfarfod â phobl o'r un anian yng Nghlwb Brecwast rheolaidd y Lluoedd Arfog yng Nghanolfan Cymuned Rhydfelen.

Ar ôl cwrdd â’i gŵr Kenneth pan oedd y ddau ohonyn nhw wedi gadael y gwasanaeth milwrol yn 1947, ymgartrefodd y ddau yn y Fwrdeistref Sirol, gan fagu dau o blant a pharhau i gefnogi’r Lluoedd Arfog.

Meddai Margaret Williams: “Ni allaf ganu clodydd Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor ddigon. Maen nhw'n rhoi cymorth gwych i bob un ohonon ni gyn-filwyr o bob oed. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych.

“Does dim byd tebyg i gyfeillgarwch, cwmnïaeth ac agosrwydd Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae'n dda gwybod ei fod yn ffynnu yn Rhondda Cynon Taf.”

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae cymaint o ddyled arnom ni i gymuned y Lluoedd Arfog - pobl fel Margaret a Ken Williams, a wasanaethodd dros eu gwlad mewn cyfnod ac amgylchiadau mor anodd.

“Mae ein Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yno i unrhyw un sy'n gysylltiedig â'n Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw. Mae'r gwasanaeth yno i gynnig cymorth ac arweiniad i unrhyw un sydd eu hangen ar unrhyw adeg yn eu bywydau.”

Ganed Margaret yng Nghaerffili yn 1926 yn ystod y Streic Gyffredinol, ac roedd ei theulu'n wynebu caledi difrifol. Fe symudon nhw i Nantgarw pan oedd hi'n dair oed ac mae Margaret wedi byw yn y Fwrdeistref Sirol ers hynny.

Ymunodd â'r Gwasanaeth Tiriogaethol Wrth Gefn yn 1944, sef cangen menywod y Fyddin Brydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y Gwasanaeth Tiriogaethol Wrth Gefn ei sefydlu yn 1938, a bu Margaret yn gwasanaethu’n rhan ohono am bedair blynedd.

Cyfarfu â Ken ym mis Rhagfyr 1947 yr un flwyddyn ac fe briododd y pâr ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Swyddfa Gofrestru Pontypridd. Mae Margaret yn edrych yn ôl ar y blynyddoedd cynnar hynny o'i bywyd gyda hoffter a hiraeth mawr, gan feddwl yn aml am y cyfnod hynny o galedi mawr.

Ychwanegodd: “Roedd fy ngŵr a minnau’n falch ein bod ni wedi gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond doedden ni ddim yn adnabod ein gilydd ar y pryd. Fe wnaethon ni gyfarfod ym 1947 ar ôl i'n gwasanaeth ddod i ben ac fe briodon ni yn 1949 - ar y pryd doedd gyda ni ddim byd. Roedd yn gyfnod mor anodd i fyw drwyddo.”

Gwasanaethodd Mr Williams gyda'r Fyddin ym Mhalestina a'r Dwyrain Canol. Yn anffodus bu farw yn 2010 ar ôl iddyn nhw fod yn briod am 61 mlynedd.

Mewn bywyd sifil, aeth Mrs Williams ymlaen i weithio yn ffatri Helliwells yn Aberdâr, Garej Bounds yn Nhrefforest a Fram Filters yn Llantrisant cyn ymddeol.

Mae Mrs Williams, sy'n fam i ddwy ferch, yn fam-gu i dri o blant ac yn hen fam-gu i ddau o blant, yn mwynhau cyfarfod â chyn-filwyr eraill yng Nghlwb Brecwast y Lluoedd Arfog yn Rhydfelen, sy'n cael ei gynnal gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor.

Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol a’u teuluoedd.

Combat Stress – 0800 138 1619

Help For Heroes – 0300 303 9888

SSAFA – 0800 260 6767

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfonwch e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cwrdd yng Nghanolfan Cymuned Rhydfelen bob yn ail ddydd Mercher bob mis, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod i Glwb Brecwast y Lluoedd Arfog. Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges at Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái ar Facebook neu ffoniwch 0774 748 5619.

Wedi ei bostio ar 04/10/2021