Skip to main content

Diwrnod Menopos y Byd

Ar Ddiwrnod Menopos y Byd eleni, mae Rhondda Cynon Taf yn cydnabod ei weithwyr sy'n fenywod ac yn tynnu sylw at waith gwych Cadw'n Iach yn y Gwaith.

Ym mis Hydref 2019, lansiodd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei ganllaw menopos yn ffurfiol. Mae'r canllaw yn rhoi gwybodaeth ac yn dangos ble mae modd i fenywod sy'n gweithio i'r Cyngor gael hyd i gymorth gyda symptomau'r menopos. Mae'r canllaw hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r menopos ymhlith rheolwyr a gweddill y gweithlu er mwyn i ni i gyd fod yn gefn i iechyd a lles menywod ar bob cam o'u bywydau.

Mae Cadw'n Iach yn y Gwaith bellach yn falch o ymestyn hyn trwy gynnig cefnogaeth debyg i fenywod sy'n byw neu'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf. Eu nod yw annog menywod i chwalu rhwystrau a siarad am eu profiadau o'r menopos a cheisio cymorth i ymdrin â’u symptomau.

Mae prosiect Cadw'n Iach yn y Gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu cymorth i fusnesau bach a'u gweithwyr.

Mae'r cymorth yn cael ei gynnig heb unrhyw gost, ac mae'n canolbwyntio ar ystod arbennig o wasanaethau i wella iechyd a lles gweithwyr ac i helpu busnesau i reoli gweithwyr ag anableddau / cyflyrau iechyd sy'n effeithio ar eu gallu i weithio.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae'n bwysig ein bod yn parhau i addysgu nid yn unig y menywod, ond ein gweithlu cyfan. Bydd pawb yn dod i gysylltiad ag ef ar ryw adeg p'un ai yn y gweithle, gartref neu mewn lleoliadau cymdeithasol eraill.

“Mae’r canllaw yma a gafodd ei lansio gan y Cyngor yn 2019 wedi bod yn llwyddiant mawr ac wedi helpu i ffurfio sylfaen ein sgyrsiau ar y menopos fel y gallwn ni barhau i chwalu’r rhwystrau a’r embaras ar y pwnc, gan sicrhau bod y rhai sy'n cael eu heffeithio yn cael eu trin â dealltwriaeth, urddas a pharch. Bydd gwaith Cadw'n Iach yn y Gwaith nawr yn caniatáu i hyn gael ei rannu i fenywod a'u cyflogwyr ar draws RhCT. ”

Dywedodd Helen Rodway, Arweinydd Clinigol ac Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol y prosiect:

“Yn draddodiadol, mae'r menopos yn bwnc tabŵ. Mae'n anochel y bydd symptomau, a all fod yn gorfforol ac yn seicolegol, yn cael eu gwaethygu gan agweddau negyddol neu wahaniaethol yn y gweithle. Mae 50% o'r gweithlu yng Nghymru yn fenywod sy'n gweithio'n hirach ac mae angen i'r agweddau negyddol newid.”

Mae Cadw'n Iach yn y Gwaith wedi datblygu cyfres o becynnau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi ar gyfer menywod a'u cyflogwyr, yn ogystal â pholisi a chanllawiau ategol, i gynyddu ymwybyddiaeth o'r effaith y gall y menopos ei chael ac i ddeall yr addasiadau y mae modd eu rhoi ar waith er mwyn cynorthwyo staff a'u cadw.

Os ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig, a naill ai'n byw neu'n gweithio yn RhCT i fusnes bach o lai na 250 o weithwyr, ym mha ffordd bynnag mae eich menopos yn effeithio arnoch chi, rydyn ni yma i helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y Gwasanaeth Cadw'n Iach yn y Gwaith eich cynorthwyo chi (yn amodol ar gymhwysedd), ffoniwch ni ar 01443 827317 neu anfon e-bost at CadwnIachynyGwaith@rctcbc.gov.uk..

Wedi ei bostio ar 18/10/2021