Skip to main content

Cronfa Teithio Llesol 2021/22 – Cyllid ychwanegol i'r Cyngor

The Council has received an additional allocation via the Active Travel Fund 2021/22

Mae'r Cyngor wedi sicrhau £661,000 ychwanegol gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith gwella croesfannau i gerddwyr a llwybrau hamdden, a gwaith pellach ar Lwybr Taith Taf.

Yn ystod mis Mawrth 2021, cafodd y Cyngor ei ddyraniad gan y Gronfa Teithio Llesol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Cyfanswm y dyraniad oedd £3.76 miliwn, gan gynnwys dyraniad craidd o £1.12 miliwn, ynghyd â chyllid ar gyfer adlinio Llwybr Taith Taf, Llwybr Teithio Llesol Treorci (Cam 1) a chynllun adeiladu pont droed newydd yn Stryd y Nant.

Mae'r Cyngor bellach wedi derbyn dyraniad arall o gyllid cyfalaf (£661,000) gan y Gronfa Teithio Llesol. Mae'n cynnwys dyraniadau penodol ar gyfer y canlynol:

  • Cyfleusterau Croesi Teithio Llesol i Gerddwyr (£161,000) – mae hyn yn cynrychioli cyllid ar gyfer croesfan newydd i gerddwyr yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest ger Parc Nantgarw, yn ogystal â chyllid rhannol ar gyfer croesfan newydd i gerddwyr yn Llanharan. Bydd y ddwy groesfan yma'n rhan o Lwybr Teithio Llesol wedi'i nodi ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor.
  • Gwaith gwella Llwybr Taith Taf (£250,000) – bydd y cyllid yma'n galluogi gwaith amrywiol, gan gynnwys gwella wyneb y llwybr mewn lleoliadau penodol. Bydd hyn yn ategu gwaith sy'n mynd rhagddo ar Lwybr Taith Taf, trwy ddefnyddio cyllid Teithio Llesol, i wneud y llwybr yn fwy hygyrch ac yn fwy addas i ddefnyddwyr.
  • Gwaith gwella llwybrau hamdden (£250,000) – bydd y cyllid yma'n galluogi gwaith amrywiol, gan gynnwys gwella wyneb y llwybr, ar lwybrau hamdden penodol ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd hyn yn gwella cysylltiadau presennol i annog Teithio Llesol ar gyfer teithiau bob dydd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r cyllid ychwanegol yma gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod y Cyngor wedi sicrhau dros £4.3 miliwn i gynnal gwelliannau Teithio Llesol eleni. Mae hyn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i annog a galluogi trigolion i gerdded a beicio'n fwy aml yn rhan o'u harferion bob dydd.

“Mae nifer o fuddion sy'n gysylltiedig â Theithio Llesol – o iechyd a lles unigolion, lleihau traffig ar ein ffyrdd, lleihau amser teithio, i amddiffyn yr amgylchedd. Mae cerdded a beicio fel dull teithio amgen yn bwnc allweddol yn ein sgwrs barhaus am Newid yn yr Hinsawdd gyda thrigolion, gan fod modd i ni i gyd chwarae ein rhan wrth i'r Fwrdeistref Sirol ddod mor agos â phosibl at fod yn garbon niwtral.

“Mae'r Cyngor hefyd wrthi'n ymgynghori â thrigolion ar ei ddarpariaeth Teithio Llesol, gan ganolbwyntio ar lwybrau cerdded a beicio presennol ac arfaethedig yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n rhoi cyfle i drigolion ddweud eu dweud am fersiwn ddiweddaraf y Cyngor o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Bydd y map yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae dyraniad ychwanegol Cronfa Teithiol Llesol bellach wedi'i neilltuo ar gyfer cyflawni prosiectau yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf y flwyddyn ariannol yma. Bydd y Cyngor yn parhau i geisio cyfleoedd ariannu allanol pan fyddan nhw ar gael.”

Wedi ei bostio ar 24/09/21