Skip to main content

Ymestyn y Cyflog Byw Go Iawn i bob maes dan gontract yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol

Mae modd i'r Cyngor ymrwymo'n ffurfiol i sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol i oedolion annibynnol dan gontract i'r Cyngor a phawb sy'n cael ei dalu'n uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf yn cael y Cyflog Byw Go Iawn o leiaf, trwy helpu darparwyr gofal cymdeithasol y sector annibynnol i gael gafael ar gyllid Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfarfod Cabinet sydd ar ddod ddydd Llun, 4 Hydref, bydd yr Aelodau'n trafod adroddiad eithriedig sy'n argymell cynyddu cyllid i weithwyr gofal lleol dan gontract, i gyflawni'r Cyflog Byw Go Iawn. Bydd yn canolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio i bobl hŷn a'r rhai sy'n rhoi gofal byw â chymorth, gofal ychwanegol a gofal yn y cartref, ynghyd â chynorthwywyr personol sy'n rhoi gofal a chymorth ac sy'n cael eu talu'n uniongyrchol.

Mae'r Cyflog Byw Go Iawn yn seiliedig ar gostau byw, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol bob mis Tachwedd. Mae'r cyflog, sy'n £9.50 yr awr ar hyn o bryd, yn cael ei dalu'n wirfoddol gan gannoedd o gyflogwyr yng Nghymru a miloedd ledled y DU.

Mae'r argymhellion i'r Cabinet ddydd Llun yn cydnabod y pwysau cynyddol a pharhaus ar wasanaethau gofal cartref, gofal preswyl a gofal nyrsio. Mae hyn wedi cael ei amlygu a'i gynyddu ymhellach gan y pandemig. Mae sicrhau isafswm cyflog priodol yn hanfodol i gefnogi gweithwyr gofal hanfodol. Mae'r adroddiad yn amlinellu mai'r bwriad yw ei ddarparu erbyn 1 Rhagfyr, 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn yn 2021/22, trwy'r Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol, gan neilltuo £40 miliwn ledled Cymru.

Os bydd y Cabinet yn cytuno ddydd Llun, bydd y Cyngor yn ymrwymo'n ffurfiol i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol y sector annibynnol i gael gafael ar y cyllid yma, a bydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am sicrwydd y bydd y cyllid yn cael ei ddarparu.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Oedolion: “Mae adroddiad y Cabinet sy’n cael ei ddwyn ymlaen yn nodi argymhellion i’r Cyngor gefnogi pob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion yn Rhondda Cynon Taf sydd dan gontract i'r Cyngor a phawb sy'n cael ei dalu'n uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf i dderbyn y Cyflog Byw Go Iawn o leiaf. Mae'n cael ei gydnabod, hyd yn oed cyn y pandemig, bod galw cynyddol am wasanaethau a chynnydd yng nghymhlethdod anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth.

“Mae'r gofynion yma wedi bod hyd yn oed yn fwy difrifol yn ystod yr 20 mis diwethaf, yn enwedig ym meysydd gofal yn y cartref a gofal preswyl. Mae'r gwasanaethau yma wedi chwarae rhan hanfodol wrth ofalu am iechyd a lles trigolion bregus, mewn cartrefi gofal ac yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r ymdrech yma wedi sicrhau bod llif cleifion trwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol wedi parhau yn ystod y cyfnod yma o bwysau dwys.

“Byddai'r cynigion y bydd y Cabinet yn eu trafod ddydd Llun yn estyn ein cefnogaeth i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn i feysydd ehangach o ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion a gweithwyr sy'n cael eu talu'n uniongyrchol, sydd ddim yn derbyn y taliad ar hyn o bryd. Mae hyn gyda'r bwriad o gydnabod y gwaith y mae gweithwyr gofal yn ei wneud, i annog rhagor o bobl i ymuno â'r diwydiant, ac i gadw gweithwyr sy'n gwneud gwahaniaeth amhrisiadwy i aelodau mwyaf bregus y gymuned o ddydd i ddydd.”

Wedi ei bostio ar 28/09/2021