Skip to main content

Cymeradwyo adeilad ysgol newydd gwerth £9m ar gyfer YGG Llyn-y-Forwyn

An example of 21st Century Schools classroom facilities

Mae'r Cabinet wedi cytuno'n ffurfiol ar gynlluniau gwerth £9m i ddarparu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog - gan ddefnyddio safle newydd i ddarparu gwell cyfleusterau ac ehangu'r cynnig addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn lleol.

Mewn adroddiad i'r Cabinet ddydd Mawrth, 21 Medi, nodwyd y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â'r cynnig. Trwy gydol y flwyddyn hon, cyrhaeddwyd sawl carreg filltir bwysig i adeiladu'r ysgol newydd erbyn 2024 - gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus (Mawrth i Ebrill) a ddangosodd gefnogaeth leol i'r prosiect, a chyhoeddi Hysbysiad Statudol yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mehefin.

Roedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod i wrthwynebiadau a sylwadau gael eu cyflwyno gan y cyhoedd. Nododd yr adroddiad na dderbyniwyd unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau, a chymeradwyodd y Cabinet argymhellion y Swyddog i weithredu'r cynnig heb unrhyw newidiadau.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfodydd y Cabinet yn y dyfodol wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen trwy broses gymeradwyo Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd achosion busnes yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor i gynnig am arian Band B, a allai sicrhau cyfraniad o 65% tuag at y prosiect.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Rwy’n falch iawn bod y Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau’n ffurfiol i fuddsoddi £9m yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog. Mae'n dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol ym mis Mehefin, a'r ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth i fis Ebrill a ddangosodd gefnogaeth ysgubol gan yr ysgol ac mewn ymatebion ysgrifenedig gan y gymuned ehangach.

“Mae gan y prosiect nifer o fuddion. Bydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'r ysgol, mannau awyr agored newydd a man gollwng teithwyr ar y safle - dyw'r naill na'r llall ddim ar gael ar safle presennol yr ysgol, a does dim modd eu darparu nhw yno chwaith. Mae'n bwysig nodi bod Estyn wedi nodi o'r blaen fod cyflawniad yr ysgol yn gadarnhaol, ond mae ei mynediad cyfyngedig i ardaloedd allanol yn gwneud dysgu awyr agored yn her. Bydd hyn yn cael ei unioni trwy adeiladu'r ysgol newydd ar y safle newydd.

“Bydd y buddsoddiad hefyd yn cyfrannu ymhellach at ein hymrwymiad i wella cyfleoedd cyfrwng Cymraeg, gan weithio tuag at ganlyniadau a amlinellir yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r Cyngor, yr haf yma, wedi dechrau cychwyn ar adeiladu cyfleusterau newydd yn Ysgol Rhydywaun ac YGG Aberdâr, gyda'r prosiectau gwerth   £12.1m a £4.5m i gynyddu nifer y lleoedd yn y ddwy ysgol.

“Bydd y cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn hefyd yn darparu lleoedd ychwanegol ac yn hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned. Bydd y rhain mewn adeilad newydd 'carbon sero-net' o ran ei weithredu ac mae'n cydymffurfio â'n hymrwymiadau o ran Newid Hinsawdd, yn ogystal â darparu cyfleusterau cymunedol a fydd yn creu cyfleoedd i'w defnyddio gan sefydliadau a grwpiau lleol yng Nglynrhedynog.

“Bydd y Cyngor yn cyflwyno ceisiadau am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect, a fyddai’n parhau â’n hanes diweddar rhagorol o sicrhau Cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif i ddarparu cyfleusterau newydd sbon ar gyfer ein pobl ifanc."

Mae'r Cabinet wedi cytuno cyn hyn bod adeilad newydd yr ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yn cael ei ddarparu ar dir i'r gogledd o Highland yng Nglynrhedynog, sef yr hen 'Ffatri Chubb'. Nododd arolwg cyflwr 2019 ar gyfer dau adeilad Fictoraidd presennol yr ysgol 'D' ar gyfer cyflwr ac 'C' ar gyfer addasrwydd (ar raddfa lle 'A' yw'r gorau a 'D' yw'r gwaethaf) - tra bod ganddynt restr hir o waith cynnal a chadw o dros £1m.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys amgylcheddau dysgu modern a hyblyg, cyfleusterau hygyrch gyda defnydd cymunedol, gwell lleoedd awyr agored i gynnal holl weithgareddau'r cwricwlwm, maes parcio i'r staff a man gollwng teithwyr ar gyfer bysiau.

Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned ehangach dros gyfnod o wyth wythnos rhwng Mawrth 1 ac Ebrill 30, 2021. Doedd dim modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r gymuned oherwydd y pandemig, ond cynhaliwyd cyfarfodydd rhithwir gyda staff, llywodraethwyr a disgyblion trwy gyswllt fideo. Yn ogystal â hynny, derbyniwyd 72 o ymatebion ysgrifenedig gan y gymuned trwy arolwg ar-lein ar wefan y Cyngor. Roedd 70 o'r rhain o blaid y cynnig.

Wedi ei bostio ar 23/09/2021