Skip to main content

Lido Ponty yn agor ar gyfer 2022

Lido

Dyma'r newyddion rydych chi wedi bod yn aros amdano! Bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn ailagor ar gyfer prif dymor 2022 ddydd Sadwrn, 9 Ebrill.

Mae hyn yn golygu y bydd y Lido ar agor trwy gydol gwyliau’r Pasg, gan gynnig dau sesiwn nofio yn gynnar yn y bore, ynghyd â chwe sesiwn gyda'r tri phwll a theganau gwynt, bob dydd!

Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau cyntaf ar werth ddydd Llun, 4 Ebrill – felly rhowch y dyddiad yma yn eich dyddiaduron.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: Cafodd Lido Cenedlaethol Cymru ei flwyddyn orau erioed llynedd. Bu mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ei dri phwll awyr agored cynnes.

“Er gwaethaf cyfyngiadau covid-19 parhaus, a oedd yn golygu bod yn rhaid i ni ddechrau’r tymor yn hwyrach yn y flwyddyn a chael llai o bobl fesul sesiwn, fe wnaethon ni groesawu dros 99,000 o nofwyr – mwy nag unrhyw dymor arall ers i Lido Ponty ail-agor.

“Diolch i fuddsoddiad y Cyngor ac ymdrech anhygoel gan staff, fe wnaethon ni ymestyn y tymor, a sicrhau bod modd cynnal sesiwn nofio Gŵyl San Steffan. Fe wnaethon ni hefyd gynnal sesiwn nofio Dydd Calan hefyd, i wneud yn iawn am y dechrau hwyr a’r capasiti cyfyngedig.

“O ystyried bod Lido Ponty wedi bod ar gau drwy gydol 2020, oherwydd y difrod ofnadwy a achoswyd gan Storm Dennis a dechrau’r pandemig Coronafeirws, mae wedi'i adfer i fod yn well nag erioed.

“Rydyn ni'n gwybod bod y miloedd lawer o bobl sy'n caru Lido Ponty yn ddiolchgar ein bod ni wedi gallu ei adfer i'w hen ogoniant, a chael tymor eithriadol yn 2021/22. Rydyn ni'n gobeithio bydd 2022/23 cystal."

Gwybodaeth bwysig:

Bydd modd prynu tocynnau ar gyfer Lido Ponty 2022 ar-lein yn unig. Fel y llynedd, mae modd i chi brynu tocynnau hyd at saith diwrnod ymlaen llaw. O ddydd Llun, 4 Ebrill, bydd tocynnau ar werth ar gyfer y sesiynau dydd Sadwrn (9 Ebrill), dydd Sul (10 Ebrill) a dydd Llun (11 Ebrill). O ddydd Mawrth, 5 Ebrill bydd modd i chi brynu tocynnau ar gyfer dydd Mawrth, 12 Ebrill ac ati.

Mae pythefnos agoriadol Lido Ponty 2022 yn cyd-daro â gwyliau'r Pasg, felly bydd amserlen gwyliau ysgol/penwythnos/gŵyl y banc ar waith yn cynnig:

  • Dau sesiwn nofio anffurfiol neu nofio mewn lonydd yn gynnar yn y bore yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau
  • Chwe sesiwn lle mae'r tri phwll ar agor a'r teganau gwynt allan, bob dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ddydd Llun 25 Ebrill, pan fydd ysgolion yn ailagor, tan ddechrau'r hanner tymor ar ddydd Sadwrn, 28 Mai, bydd Lido Ponty yn dychwelyd i amserlen gyfyngedig yn cynnig:

  • Yn ystod yr wythnos: Dau sesiwn nofio anffurfiol neu mewn lonydd yn gynnar yn y bore yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau.
  • Penwythnosau (y ddau ddiwrnod): Dau sesiwn nofio anffurfiol neu mewn lonydd yn gynnar yn y bore yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau. Chwe sesiwn yn y tri phwll gyda theganau gwynt.

Yr eithriad i hyn fydd dydd Llun Gŵyl y Banc ar 2 Mai, pan fydd amserlen gwyliau ysgol/penwythnos/gŵyl y banc yn berthnasol am un diwrnod yn unig.

Cyn gynted ag y bydd hanner tymor mis Mai yn dechrau ddydd Sadwrn, 28 Mai, mae amserlen gwyliau ysgol/penwythnos/gŵyl y banc yn dychwelyd hyd at ddydd Sul, Mehefin 5.

O ddydd Llun 6 Mehefin, bydd yr amserlen tymor yr ysgol newydd ar waith yn cynnig:

  • Chwe sesiwn nofio anffurfiol/nofio mewn lonydd yn y prif bwll neu bwll gweithgareddau, ac yna dwy sesiwn llawn hwyl ar ôl yr ysgol ym mhob un o'r tri phwll (gyda theganau gwynt) yn ystod yr wythnos
  • Dau sesiwn nofio anffurfiol neu nofio mewn lonydd yn y prif bwll a phyllau gweithgareddau, a chwe sesiwn llawn hwyl i ddilyn ar draws y tri phwll (gan gynnwys teganau gwynt) ar benwythnosau.
Wedi ei bostio ar 23/03/2022