Skip to main content

Cyfleusterau gwefru cerbydau trydan newydd i'w gosod ar draws y Fwrdeistref Sirol

EV charging points will be installed at 31 locations in RCT this year

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau ei fod wedi gweithio'n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i sicrhau cyllid i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd mewn 31 o feysydd parcio ar draws Rhondda Cynon Taf, fydd yn cael eu gosod am weddill y flwyddyn yma.

Mae mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth i'r Cyngor, sydd wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Rhan bwysig o'r ymrwymiad yma yw hyrwyddo defnydd o gerbydau trydan a darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i breswylwyr sydd methu gwefru gartref. Mae Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor yn cwmpasu’r cyfnod o 2021 i 2030, ac mae ar gael i’w gweld ar-lein.

Mae cerbydau trydan yn lleihau’r allyriadau egsôst sy'n cael eu cynhyrchu yn sylweddol o'u cymharu â cherbydau petrol a diesel, sydd yn arwain at ansawdd aer gwell.

Bydd cais llwyddiannus y Cyngor am gyllid yn arwain at osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn 31 o feysydd parcio oddi ar y stryd gan y contractwr Connected Kerb - un o brif gwmnïau'r DU o ran darparu datrysiadau gwefru cerbydau trydan - yn rhan o waith ehangach ar draws ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n cynnwys 10 awdurdod lleol.

Bydd gwaith yn dechrau ar safleoedd Rhondda Cynon Taf yn ystod yr wythnosau sydd i ddod, gyda phob safle yn cynnwys o leiaf un pwynt gwefru a nifer ohonyn nhw'n cynnwys dau. Bydd cymysgedd o bwyntiau gwefru cyflym 7kw–22kw.

Ar ôl i'r contractwyr gadarnhau eu rhaglen waith ar gyfer pob safle, bydd y Cyngor yn rhoi'r manylion i breswylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y gwaith yn golygu gorfod cau rhan o bob maes parcio am gyfnod byr er mwyn i’r gwaith gosod y pwyntiau, ac unrhyw waith sy'n gysylltiedig, gael eu cynnal. Bydd pob un o'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yn y 31 safle oll wedi'u gosod cyn diwedd mis Rhagfyr 2022.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae buddsoddi mewn darpariaeth gwefru cerbydau trydan yn rhan bwysig o ymrwymiadau'r Cyngor sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, wrth i ni anelu i wneud yr hyn y gallwn ni yn yr ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd sydd wedi'i ddatgan gan Lywodraeth Cymru. Mae'r nifer sy'n berchen ar gerbydau trydan wedi cynyddu'n raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae darogan y bydd hyn yn cynyddu ymhellach wrth i dechnoleg barhau i wella ac wrth i'r gallu i fforddio'r cerbydau dyfu.

“Diolch i gefnogaeth gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd yn cael eu gosod mewn meysydd parcio lleol, a byddan nhw'n eiddo i’r Cyngor ac yn cael eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol. Mae'r Cyngor hefyd yn gwneud cais am gyllid ar wahân i ddarparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn safleoedd eraill, y tu hwnt i'r 31 sydd wedi'u dynodi eisoes.

“Bydd y Cyngor yn cyhoeddi manylion penodol am bob un o’r 31 safle pan fydd y contractwyr yn cadarnhau eu cynllun gosod, gyda’r gwaith yn gyfan gwbl i redeg tan ddiwedd mis Rhagfyr. Cadwch lygad mas am yr wybodaeth yma, fydd yn cael ei chyhoeddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.”

Ychwanegodd Chris Pateman-Jones, Prif Weithredwr Connected Kerb: “Rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ar osod yr isadeiledd gwefru cerbydau trydan yma, fydd yn amhrisiadwy i breswylwyr sy’n defnyddio cerbydau trydan ond sydd heb dramwyfeydd, ac yn rhoi hwb i ymdrechion sero net yr ardal. Bydd y prosiect yn hynod bwysig o ran sicrhau bod gan bawb fynediad at gyfleusterau gwefru cerbydau trydan beth bynnag fo’u statws cymdeithasol neu ble maen nhw'n byw, a gobeithio y bydd hwn yn lasbrint ar gyfer prosiectau cerbydau trydan ar hyd a lled Cymru yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 23/05/2022