Skip to main content

Penodi Maer Newydd

Mayor Treeby

Cafodd y Cynghorydd Wendy Treeby ei hailbenodi'n Faer Rhondda Cynon Taf yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 25 Mai 2022.

Dechreuodd y Cynghorydd Wendy Treeby, aelod etholedig ar gyfer Ward Aberpennar, yn ei rôl yn Faer ym mis Ionawr ar ôl i'r Cynghorydd Jill Bonetto, oedd yn aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, roi'r gorau i'r rôl.

Meddai'r Cynghorydd Treeby, sydd wedi byw yn y fwrdeistref sirol trwy gydol ei bywyd, ei bod hi'n edrych ymlaen at ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf.

Ar ôl iddi gael ei hailbenodi'n Faer Rhondda Cynon Taf, meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby: "Mae'n anrhydedd enfawr gwasanaethu'n Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod blwyddyn hanesyddol i'r fwrdeistref sirol wrth ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Rydyn ni'n croesawu Baton y Frenhines sy'n dod i Rondda Cynon Taf unwaith yn rhagor cyn Gemau'r Gymanwlad.

"Bydd Neil Jenkins MBE, un o arwyr rygbi Cymru, yn derbyn Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol gan y Cyngor. Caiff Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol hefyd ei rhoi i holl weithwyr allweddol y fwrdeistref sirol. Diolch iddyn nhw am eu holl waith caled yn ystod y pandemig.

"Yn dilyn cyfnod anodd iawn i bawb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, hoffwn ddiolch i bob un o'n gweithwyr allweddol ar y cyd; mae gormod i enwi a chydnabod yn unigol. Ond rydyn ni'n ddiolchgar am bopeth a wnaethoch chi drosom ni, a phopeth rydych chi'n parhau i'w wneud hyd heddiw.

"Rydw i'n falch i fod yn brif ddinesydd y fwrdeistref sirol yn ystod yr amser yma; amser i fyfyrio a symud yn ein blaenau yn araf ac yn ofalus. Yn ystod fy amser yn Faer, byddaf yn parhau i gefnogi elusennau drwy gydol y flwyddyn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cwrdd â chynifer o bobl â phosib."

Bydd y Cynghorydd Treeby yn cefnogi nifer o elusennau yn ystod ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Cymdeithas Strôc ac Elusen Green Meadow Riding for the Disabled yn ogystal â chefnogi'r Lluoedd Arfog.

Cafodd y Cynghorydd Wendy Lewis, aelod etholedig ar gyfer Ward Llwynypia, ei hailbenodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher, 25 Mai.

Wedi ei bostio ar 26/05/22