Skip to main content

Teddy Bears' Picnic

Untitled design (83)

Os ewch chi i'r parc heddiw....

...byddwch chi'n siŵr o gael diwrnod arbennig! Mae Picnic y Tedis yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ddydd Gwener, 17 Mehefin rhwng 10am - 2pm.

Bydd modd i drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf, eu teuluoedd a’u cynhalwyr fwynhau diwrnod llawn hwyl ym mhrydferthwch y parc. Bydd gweithgareddau hwyl, gemau ac  adloniant hefyd ar gael. Mae mynediad i’r achlysur a’r holl adloniant am ddim. Bydd modd i chi brynu bwyd ar y safle neu mae croeso i chi ddod â bwyd eich hun.

Bydd ffair fach, castell neidio, celf a chrefft, gemau, paentio wynebau, modelwyr balŵns ac adloniant byw gan Charlie Bubbles a'i dreic gerddorol!

Mae Picnic y Tedis yn berffaith ar gyfer plant dan 5 oed, eu rhieni a’u cynhalwyr. Dewch i ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd RhCT, gan gynnwys sut mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd yn ysbrydoli darllenwyr y dyfodol, sut i fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd! (A llawer yn rhagor!)

Mae'r holl stondinau yn cynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i deuluoedd a chynhalwyr sydd â phlant dan 5 oed. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol er mwyn i chi gael blas ar y gwaith  maen nhw'n ei wneud.

Dyma'r carfanau fydd yna i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth:

Y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles

Dewch i fwynhau helfa sborion a chael gwybodaeth sy'n ymwneud â mynychu’r ysgol

Arlwyo

Hwyl a sbri wrth chwarae’r gêm bwyta'n iach a chyfle i ddysgu rhagor am brydau ysgol a sut rydyn ni'n ceisio ysbrydoli plant i fwyta'n iach. 

Dechrau'n Deg

Bydd ein stondin ni’n cynnig cyfleoedd chwarae rôl, cornel ddarllen, blociau adeiladu a llawer yn rhagor. Mae'n berffaith ar gyfer plant 2 - 3 oed! 

Y Garfan Chwarae

Dewch i gael hwyl a sbri gyda'r Garfan Chwarae!  Bydd nifer o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys paentio wynebau a chreu bathodynnau â gliter! 

Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Dewch i ddysgu sut rydyn ni'n cefnogi ein teuluoedd. Bydd gweithgareddau llawn hwyl i'r plant yn ein pabell ni. Thema ein stondin ni eleni yw 'Shark in the Park'. Dewch i gymryd rhan yn yr hwyl drwy greu mygydau, barcudiaid ac ysbienddrychau. Bydd cyfle hefyd i chwarae gêm dal siarc, chwarae yn y tywod a llawer yn rhagor. Yn ogystal â hyn, cewch chi dynnu’ch llun gyda’r Siarc ac ymuno â ni ar y llwyfan ar gyfer amser stori a chân. 

Chwaraeon RhCT

Bydd modd i blant gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi, rhoi cynnig ar feiciau cydbwyso, pêl-rwyd, pêl-droed ac athletau. Bydd modd i chi ddysgu am y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael yn eich ardal chi , megis clybiau, gweithgareddau a theithiau cerdded ar gyfer y teulu cyfan.

Mae modd i chi ddysgu rhagor am y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig i deuluoedd a phlant ifainc yma. 

Dywedodd Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant, Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae Picnic y Tedis yn achlysur poblogaidd iawn oherwydd prif thema’r diwrnod yw chwarae a chael hwyl. 
"Ond ymhlith yr hwyl a chwerthin ym mhrydferthwch Parc Coffa Ynysangharad, bydd cyfle i ddod o hyd i wybodaeth allweddol ynglŷn â'r gwasanaethau cymorth hanfodol sydd ar gael i blant dan 5 oed, eu teuluoedd a'u cynhalwyr. 
"Mae canoedd o wasanaethau ar gael i sicrhau bod ein plant yn dechrau’u bywydau yn y ffordd orau bosibl. Mae'r rhain yn cynnwys dewis ysgol neu ddarpariaeth gofal plant, sut i ymuno â’r llyfrgell leol, ymuno â chlybiau chwaraeon a sut i fwyta'n iach. 
"Dyma achlysur cyntaf Picnic y Tedis ers sawl blwyddyn, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’n trigolion ieuengaf yn ôl i'r parc yng nghwmni eu teuluoedd a chynhalwyr. Peidiwch ag oedi, cadwch le ar gyfer Picnic y Tedis nawr."

 

Mae mynediad i’r Picnic a'r holl weithgareddau am ddim. Bydd modd prynu bwyd ar y safle. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cadw lle. Cadwch le yma. 

Mae Picnic y Tedis 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae’r staff cyfeillgar wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd, diolch i'w garfan gyfeillgar a phroffesiynol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae'r cwmni wedi noddi pob achlysur  'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022, gan ein helpu ni i gynnig hwyl ac adloniant i bawb.

Os oes diddordeb gennych chi mewn noddi achlysur 'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022, cliciwch yma i ddysgu rhagor a chysylltu â ni:

Mae Picnic y Tedis yn cynrychioli un o achlysuron gwych 'Be sy 'mlaen RhCT' yn 2022. Mae achlysuron eraill yn cynnwys Cegaid o Fwyd Cymru, Rhialtwch Calan Gaeaf, Nadolig yn RhCT a'r rasys byd-enwog Nos Galan. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Wedi ei bostio ar 23/05/22