Skip to main content

Offer i helpu teulu/cynhalwyr preswyl

Mae'r rhan fwyaf o'n cyfarpar Teleofal (Telecare) wedi'i chysylltu â'n gwasanaeth monitro 24 awr Gwifren Achub Bywyd, a fyddai'n trefnu ymateb priodol pe bai synhwyrydd yn cael ei actifadu.  

Serch hynny, os oes teulu gyda chi, neu gynhaliwr preswyl, sy'n helpu i ofalu amdanoch chi, mae offer ar gael a all fod o gymorth.

Teclyn galw
Teclyn galw

Gall yr holl offer isod gael ei gysylltu (heb wifrau) i declyn galw a fyddai'n rhoi rhybudd pe bai synhwyrydd yn cael ei actifadu.

Mae modd mynd ag ef gyda chi o gwmpas y tŷ ac yn yr ardd, gan ganiatáu lefel gymharol o ryddid i'r cynhaliwr, a rhoi’r sicrwydd iddo y bydd yn gallu gweithredu ar unwaith mewn ymateb i rybudd.

Synhwyrydd codi o wely neu gadair

Mae modd defnyddio'r synhwyrydd yma i dynnu sylw at rywun sy'n codi o'r gwely neu o gadair. Mae'n bosibl ei gysylltu â switsh oedi neu i droi lampiau ymlaen, i helpu i atal codymau yn ystod y nos.

Synhwyrydd eniwresis

Mae'r synhwyrydd yma'n darparu dull cynnil ac effeithlon i ganfod gwlychu'r gwely wrth iddo ddigwydd.

Synhwyrydd epilepsi

Mae'r synhwyrydd yma'n monitro'r unigolyn sydd ag epilepsi wrth iddo gysgu i roi rhybudd pe bai’n cael ffit.

Synhwyrydd Cwympo

Bydd synhwyrydd cwympo yn rhoi rhybudd yn awtomatig os yw'r person sy'n ei wisgo yn cwympo.  Mae yna 3 math gwahanol ar gael gan ddibynnu ar anghenion y person.

Synhwyrydd llifogydd

Mae'r synhwyrydd yma'n cael ei actifadu pan ddaw i gysylltiad â dŵr. Gall pobl sydd ag anghofrwydd ei ddefnyddio, er mwyn atal llifogydd yn y cartref.

Teclyn Gwddf Gwifren Achub Bywyd

Mae person yn gallu pwyso'r teclyn gwddf mewn argyfwng neu pan fydd angen help.

Mat pwysedd

Mae modd gosod matiau o amgylch y cartref i roi rhybudd pan fydd rhywun yn dynesu at ardal a allai beri risg.

Synhwyrydd ymadael

Bwriad y synhwyrydd yma yw monitro diogelwch pobl sydd â phroblemau cofio, a allai fod yn dueddol o adael eu cartrefi ar adegau amhriodol.


Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o gael Gwifren Achub Bywyd neu offer Teleofal, dylech chi gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith neu'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Gofal os oes un gyda chi. 

Bydd y Garfan Ymateb ar Unwaith yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi am eich sefyllfa, ac os ydyn nhw o'r farn bod eich cais yn briodol, byddan nhw'n ei drosglwyddo i Reolwr Gofal.

Cysylltwch

 

Ffôn: 01443 425003